Ymosodiad ar ddyn yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 29 oed wedi cael ei dderbyn i'r ysbyty gyda chlwyfau difrifol ar ôl digwyddiad yn ardal Butetown o Gaerdydd nos Sadwrn.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ychydig cyn 11yh.
Cafodd y dyn ei dderbyn i Ysbyty Athrofaol Cymru gyda chlwyfau difrifol i'w gorff, ond dyw'r anafiadau ddim yn fygythiad i'w fywyd.
Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio, ac mae'n cael ei gwestiynu yn orsaf heddlu Bae Caerdydd ar hyn o bryd.