Y Gwasanaeth Iechyd 'dan bwysau y gellid ei osgoi,' yn ôl Mark Drakeford
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei roi dan ormod o bwysau yn delio gyda chyflyrau sy'n deillio o ysmygu, gor-yfed a diet gwael, yn ôl y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.
Dywedodd Mr Drakeford bod rhaid i'r GIG "achub" pobl rhag "niwed a allai fod wedi'i osgoi"
Mae o'n dweud y bydd yn gwneud bopeth i leihau'r nifer o ysmygwyr.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd ei fod o hefyd eisiau i'r Llywodraeth yn San Steffan ddelio â faint o siwgr sydd mewn bwyd wedi'i brosesu.
Daw sylwadau Mr Drakeford wrth i BBC Cymru gyhoeddi canlyniadau arolwg barn gan ICM Research ar berfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Roedd mwy na hanner y rhai a ofynnwyd yn dweud y dylai'r GIG gyfyngu neu wrthod triniaeth i bobl sy'n gwrthod newid eu ffordd o fyw.
'Cyfrifoldeb'
Dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r GIG gyda chyfrifoldeb, a fy nghyfrifoldeb i fel gweinidog yw sicrhau bod y gwasanaeth mor dda ac y gallwn ni ei wneud, ond mae gan y cyhoedd a chleifion gyfrifoldebau hefyd.
"Os ydyn ni eisiau i'r GIG barhau i edrych ar ein hôl pan fydd rhywbeth drwg yn digwydd, mae'n rhaid i ni wneud mwy i osgoi'r niwed sy'n ocheladwy."
Dywedodd y gweinidog ei fod wedi ysgrifennu i'r Ysgrifennydd Gwladol Iechyd yn Lloegr, Jeremy Hunt, yn ei annog i'w gwneud yn orfodol i leihau'r siwgr mewn bwyd wedi'i brosesu.
"Maen nhw wedi gwneud gwaith da yn lleihau faint o halen sydd mewn bwyd wedi'i brosesu, ac o ganlyniad mae miloedd o strociau a thrawiadau ar y galon wedi'u hosgoi dros y 12 mis diwethaf," meddai.
"Rwyf eisiau i'r Ysgrifennydd Gwladol Iechyd gymryd agwedd fel yma at siwgr yn ogystal, a pheidio cael eu dylanwadu gan y diwydiant.
"Os ydi siwgr yn rhan o gymaint o'r hyn rydyn ni'n ei brynu a'i fwyta, dim ond hyn a hyn y gallwch chi wneud fel unigolyn - mae gan y llywodraeth gyfrifoldeb i weithio gyda'r diwydiant, a ble nad yw'n cyrraedd y marc, rhaid bod yn fwy llym na mae'r ysgrifennydd wedi bod hyd yn hyn."