Gweinidog ac academwyr yn trafod dyfodol datganoli
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o academwyr blaenllaw yn cwrdd â'r Farwnes Randerson, Gweinidog Cymru, er mwyn trafod dyfodol datganoli yng Nghymru.
Yn ôl Swyddfa Cymru, nod y cyfarfod yw dod ag arbenigwyr o sawl maes ynghyd eu mwyn rhannu syniadau am y ffordd orau i San Steffan ddatganoli mwy o bwerau i Gymru.
Bydd disgwyl i'r academwyr gael cyfle i drafod rhaglen ddatganoli Llywodraeth y DU.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi addo cyhoeddi fframwaith amlbleidiol newydd fydd yn ei dro yn arwain at "setliad datganoli" mwy parhaol erbyn Dydd Gŵyl Dewi.
'Ystod eang'
Yn ôl y farwnes: "Mae'n bwysig ein bod yn clywed ystod eang o syniadau ynglŷn â sut i ddarparu newidiadau cyfansoddiadol sy'n gweithio i Gymru.
"Mae'r academwyr rwy'n cwrdd â nhw heddiw ymhlith y bobl fwyaf galluog yng Nghymru, gyda dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru, hanes Cymru a'r gymdeithas rydym yn byw ynddi.
"Mae nifer yn flaenllaw yn ein prifysgolion, sefydliadau sy'n allweddol i economi lwyddiannus yng Nghymru.
"Rwy'n sicr y byddan nhw'n cyfrannu'n werthfawr at y rhaglen ddatganoli ac at y drafodaeth am y modd mae Cymru yn cael ei llywodraethu."