Safon ysgolion cynradd 'wedi gwaethygu'
- Cyhoeddwyd

Mae safon ysgolion cynradd gafodd eu harolygu y flwyddyn diwethaf wedi gwaethygu o gymharu â'r blynyddoedd a fu. Dyna un o brif ganfyddiadau adroddiad blynyddol Estyn.
Roedd rhaid i tua dwy ymhob tair o ysgolion cynradd dderbyn rhagor o gyngor oherwydd diffygion yn y safon.
Yn ôl yr adroddiad, mae nifer o agweddau o ran perfformiad yn gwella. Mae presenoldeb disgyblion yn gwella, ac mae nifer y disgyblion sy'n absennol yn aml yn gostwng.
Yn ogystal, mae'r bwlch rhwng perfformiad y disgyblion sy'n derbyn cinio ysgol am ddim, a disgyblion eraill, yn lleihau.
Fe ddywedodd prif arolygydd Estyn, Ann Keane fod "y gwelliannau yn awgrymu fod yr ymgyrchoedd sydd wedi eu cyflwyno i ysgolion a darparwyr eraill - dan gefnogaeth llywodraeth Cymru - yn cael effaith bositif".
Cynradd ac uwchradd
Yn adroddiad blynyddol y corff y llynedd, fe ddywedodd Estyn fod safonau ysgolion cynradd yn gwella, gan fynegi pryder am ysgolion uwchradd. Eleni, fodd bynnag, mae'r sefyllfa wedi newid. Wrth i safonau'r ysgolion uwchradd wella, mae pryder am ysgolion cynradd.
"Fe syrthiodd nifer yr ysgolion cynradd â safon da neu ardderchog o saith ymhob 10 i chwech ymhob 10," yn ôl Ms Keane.
"Mae bron i bedair ymhob 10 yn foddhaol - cynnydd bychan ar ffigwr y llynedd. Gwendid yn sgiliau rhifedd rhai disgyblion oedd un o'r rhesymau am hyn - 'dy ni wedi edrych yn agos ar hyn eleni - a diffyg hyder disgyblion wrth ddefnyddio'r sgiliau hyn yn rhan o'r cwricwlwm.
"Mae safonau llythrenedd wedi gwella rhyw fymryn eleni, yn enwedig o ran sgiliau ysgrifennu disgyblion."
Ychwanegodd bod safonau ysgolion uwchradd wedi gwella eleni wedi perfformiad gwan y llynedd.
"Fe gododd nifer yr ysgolion uwchradd a safon da neu ardderchog i dros hanner. Eleni, chafodd yr un ysgol uwchradd ei rhoi dan fesurau arbennig wedi arolwg - cafodd chwe ysgol uwchradd eu rhoi dan fesurau arbennig y llynedd."
Mae mathemateg yn parhau i fod yn broblem mewn ysgolion cynradd ac uwchradd:
"Mae cynlluniau i ddatblygu sgiliau rhifedd plant ledled y cwricwlwm fel arfer yn wanach na chynlluniau i ddatblygu llythrennedd yn y rhan fwya' o ysgolion."
Dadansoddiad Gohebydd Addysg BBC Cymru, Arwyn Jones
Mae hi'n ddiddorol gweld bod adroddiad Estyn eleni yn troi pryderon y llynedd ar eu pen.
Tra roedd digon o ganmoliaeth i'r ysgolion cynradd y llynedd, roedd ysgolion uwchradd yn destun pryder.
Wel eleni, mae hynny wedi newid yn gyfan gwbl.
Y prif reswm am wendidau honedig yr ysgolion cynradd ydy pwyslais ychwanegol Estyn ar safonau rhifedd.
Dywedodd Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn, wrtha'i bod yna ormod o fylchau yn hyder athrawon wrth ddysgu rhifedd.
O ran yr athrawon, mae yna wendidau hefyd o ran asesu disgyblion. Yn ôl arolygwyr, tydy marciau athrawon ddim yn adlewyrchu gallu y plant.
Gall hynny arwain at roi argraff camarweiniol i ddisgyblion a rhieni.
Beth fydd yn fwy calonogol ydy haeriad Ann Keane fod safonau addysg Cymru, ar y cyfan, yn gwella.
Asesu gwaith
Problem arall sy'n peri pryder i Estyn, yw'r ffordd mae athrawon yn asesu gwaith eu disgyblion:
"Mae nifer o adroddiadau arolwg yn parhau i ddatgan nad ydi asesiadau athrawon yn ddigon manwl na dibynadwy. Wrth edrych ar lyfrau disgyblion yn ystod arolwg, mae arolygwyr yn aml yn gweld gwahaniaeth rhwng lefelau y Cwricwlwm Cenedlaethol, a safon gwaith y disgyblion."
Yn ystod y flwyddyn a fu, fe gafodd adrannau addysg pum awdurdod lleol wybod na fyddai Estyn yn ymweld â nhw eto - gan olygu fod problemau blaenorol wedi eu datrys, gan fwyaf.
Fodd bynnag, mae pryder yn parhau am gynghorau sydd dan fesurau arbennig:
"Mae'n bryder bod pedwar awdurdod lleol yn parhau i fod dan fesurau arbennig - un angen gwella'n sylweddol, a thri yn parhau i gael eu monitro gan Estyn."
Mae'r cyfnod sylfaen - sydd â phwyslais ar ddysgu drwy chwarae - yn cael ei redeg "yn dda iawn" yn y rhan fwyaf o ysgolion a meithinfeydd. Fodd bynnag, mae 'na bryder bod ambell i ysgol wedi dychwelyd at ddysgu'r disgyblion ieuengaf mewn awyrgylch ffurfiol - sy'n groes i ethos yr ymgyrch.