Nuffield: 'Lle sylweddol i wella'
- Cyhoeddwyd

Mae 'na le sylweddol i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wella ac mae gan gleifion "sail gwirioneddol dros bryderu" ynglŷn â'r amseroedd aros hirach mae nhw'n ei wynebu.
Dyna'r rhybudd gan Ymddiriedolaeth Nuffield sydd wedi bod cynnal dadansoddiad arbennig o berfformiad y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer BBC Cymru.
Serch hynny, mae pennaeth y sefydliad yn dweud bod hi'n "or-syml" i honni, ar sail nifer fach o fesurau, fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, mewn rhyw ffordd gryn dipyn yn waeth nag yn Lloegr.
Yn ôl y dadansoddiad mae amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau ac mewn unedau brys ynghyd â pherfformiad ambiwlansys wedi gwaethygu'n fwy yng Nghymru nag yn Lloegr.
Ond mae Cymru "ychydig ar y blaen" o ran perfformiad ym maes canser, yn cadw mwy o gleifion allan o'r ysbyty ac wedi osgoi dirywiad mawr diweddar - sydd wedi'i weld yn Lloegr - yn yr oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty.
'Salach a thlotach'
Mae'r gwaith ymchwil yn awgrymu y gallai'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr, yn rhannol, fod o ganlyniad i'r ffaith fod poblogaeth Cymru ar y cyfan yn hŷn, salach a thlotach.
Ond mae Ymddiriedolaeth Nuffield yn honni fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "llai ffyrnig" wrth blismona targedau gan ganolbwyntio mwy ar iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol.
Er yn amheus ynglŷn â faint o wahaniaeth all unrhyw wleidydd ei gael - mae'r sefydliad yn awgrymu'n gryf fod faint sy'n cael ei wario ar y gwasanaeth yn hollbwysig.
Awgrym pennaeth y sefydliad yw fod Llywodraeth Cymru - efallai - heb wario digon.
Mae manylion adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield ar gael i'w gweld yma, mewn darn arbennig i BBC Cymru gan brif weithredwr y sefydliad, Nigel Edwards. (Cynnwys Saesneg)