Tân yn Y Fenni: Arestio dau lanc

Heddlu
Image caption Roedd y tân yng nghanol y dre Ddydd Gŵyl Steffan

Mae dau lanc wedi eu harestio wedi tân yn Y Fenni Ddydd Gŵyl Steffan.

Cafodd y llanciau 16 a 17 oed eu harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol a'u rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Roedd y tân yng nghanol y dre wrth gyffordd Heol Aberhonddu a Heol Merthyr rhwng 8 ac 8.30pm.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 a dyfynnu 277 26/12/14.