Damwain M4: Dal i ymchwilio
- Published
Mae'r heddlu'n dal i ymchwilio i achos damwain ar draffordd yr M4 ar gyrion Caerdydd ddydd Sadwrn.
Yn y cyfamser, mae Sefydliad y Gyrwyr Lefel Uwch yng Nghymru wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru ystyried a oes angen cyfyngiadau cyflymder ar y rhan o'r M4 lle cafodd bron 30 eu hanafu ddydd Sadwrn.
Cafodd 28 o bobl eu cludo i'r ysbyty ar ôl i fws bychan a phedwar o geir daro yn erbyn ei gilydd ar y lôn ddwyreiniol i gyfeiriad Caerdydd ger Cyffordd 34.
Yn fuan wedyn mi drodd car arall drosodd ar y lôn orllewinol gerllaw.
"Mae'n ymddangos bod y traffig yn araf neu ddim yn symud ar y ffordd ymadael i'r A4232 i Gaerdydd," meddai'r Arolygydd Carwyn Evans.
"Am ryw reswm fe darodd bws gar oedd ar ddiwedd rhes o geir a tharodd y car hwnnw nifer o geir yn y rhes."
Yn brofiadol
Dywedodd fod gyrrwr y bws wedi ei holi a bod adroddiad wedi ei gyflwyno.
Mae'r cwmni bysus Cresta Coaches o Ben-y-bont wedi dweud fod y gyrrwr yn brofiadol ac wedi gwisgo gwregys diogelwch.
"Chafodd e ddim mo'i anafu ond mae wedi cael siglad," meddai llefarydd.
Dywedodd taw dim ond un teithiwr oedd yn yr ysbyty o hyd.
"Fe garen ni ddiolch i bawb helpodd yn y fan a'r lle - a'r gwasnaethau brys oherwydd eu hymateb gwych."
Roedd nifer o'r bobl gafodd eu hanafu yn bensiynwyr o Faesteg a oedd yn teithio ar y bws i weld y sioe gerdd Top Hat yng Nghaerdydd.
Digwyddodd y ddamwain gynta tua 11:50 pan darodd y bws yn erbyn pedwar cerbyd arall.