Nyrs yn gwadu cam-drin cleifion yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs wedi pledio'n ddieuog i ddau gyhuddiad o gam-drin person sy'n agored i niwed yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Fe wnaeth Michelle Ace ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.
Mae'r cyhuddiadau yn ymwneud a dau ddyn ac yn dyddio yn ôl at fis Mehefin 2014.
Bydd Ms Ace yn ymddangos yn y llys eto ym mis Gorffennaf, ac fe gafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth.