Byw yng nghysgod y Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Sgrym Glyn EbwyFfynhonnell y llun, Graham Davies

Mae'r berthynas rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau wedi hoelio sylw'r byd rygbi yn y misoedd diwethaf ond sut mae clybiau eraill yng Nghymru yn ymdopi wrth i natur y gêm newid? Rob Smith, sy'n gofalu am wefan Glyn Ebwy, bu'n dweud wrth Cymru Fyw pa mor galed yw hi wedi bod ar 'Y Gwŷr Dur' yn ddiweddar:

Newid

Roedd tymor 2009-10 yn drychineb: 26 o gemau, pum buddugoliaeth, cyfanswm enfawr o 59 o chwaraewyr wedi eu defnyddio.

Yn yr haf, ar ôl i'r clwb gwympo o'r Uwch Gynghrair, dechreuodd y rheolwyr newydd gynllunio eu tymor cyntaf yn Adran Gyntaf y Dwyrain. Dim ond dau chwaraewr oedd yn y garfan, a neb i'w hyfforddi.

Ffynhonnell y llun, NCR Photography

Chwaraewyr lleol

Aeth Glyn Ebwy yn ôl at yr hanfodion i geisio denu pobl â chysylltiadau agos i'r clwb, ar y maes ac oddi arno. Daeth y Cadeirydd Jon Jones â'r cyn-chwaraewyr Neil Edwards a Jason Strange fel hyfforddwyr.

Ffynhonnell y llun, Graham Davies
Disgrifiad o’r llun,
Prif hyfforddwr Glyn Ebwy, Jason Strange

Fe ddechreuon nhw adeiladu carfan o chwaraewyr lleol, o gwmpas y capten Damien Hudd, Mathew Williams ac Andrew Bevan (y ddau oedd wedi aros gyda'r clwb).

Oddi ar y maes, roedd pwyslais o'r newydd ar gysylltu â busnesau, clybiau a gwirfoddolwyr lleol a oedd, am ba bynnag reswm, wedi colli cysylltiad gyda'r clwb.

Roedd y Cadeirydd yn awyddus i ddilyn model tebyg i'r un sydd wedi ei fabwysiadu gan glwb pêl-droed Abertawe.

Roedden nhw lawr yn y dyfnderoedd, heb obaith, ond daeth pobl lleol ynghlwm â'r clwb, ac maen nhw'n dewis y bobl addas i wneud y gwaith - o fewn cyllideb.

Llwyddiant

Roedd y tymor cyntaf yn Adran Gyntaf y Dwyrain yn llwyddiannus - cais cosb, yn hwyr yng ngêm olaf y tymor yn Bedlinog, yn sicrhau'r teitl. Yn anffodus, roedd dyrchafiad yn dibynnu ar ennill gêm ail gyfle yn erbyn Crwydriaid Morgannwg, a phrofodd hynny'n ormod.

Enillodd Glyn Ebwy'r teitl y tymor wedyn gan sgorio 105 o geisiau, ac yna enillodd y clwb y Bencampwriaeth Genedlaethol, gan golli unwaith a dim ond colli 7 pwynt.

Daeth Jason Strange yn Brif Hyfforddwr ac fe enillodd Glyn Ebwy y Bencampwriaeth am yr eildro yn 2013-14, ac ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair.

Ffynhonnell y llun, Graham Davies
Disgrifiad o’r llun,
Fe enillodd Glyn Ebwy ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair ar ôl ennill pob gêm ond un yn nhymor 2013/14

'Brwydr barhaol'

Roedd ychydig iawn o newidiadau i'r garfan dros y cyfnod hwn - wrth gwrs, mae chwaraewyr wedi mynd a dod - ond mae'r galon wedi aros, yn enwedig yn y blaenwyr, sydd erbyn hyn yn cael yr enw am fod ymhlith goreuon Cymru.

Mae'n frwydr barhaol i hyrwyddo'r clwb yn y gymuned, ond mae cysylltiadau wedi eu gwneud, ac mae llwyddiant ar y maes yn denu nawdd a thorfeydd mawr.

Mae'r hyfforddwyr Jason Strange a Lewis Roberts yn athrawon yn y dref ac mae eu gwaith wedi bod yn bwysig iawn o safbwynt cysylltu â'r gymuned.

Mae pobl yn gofyn sut yr ydym yn cystadlu â'r Dreigiau, o safbwynt perswadio pobl i'n cefnogi ni yn hytrach na nhw, jyst lawr y ffordd ac yn chwarae ar lefel uwch.

Ffynhonnell y llun, Graham Davies
Disgrifiad o’r llun,
Rhai aelodau o garfan Glyn Ebwy yn dathlu ar ol curo Castell-Nedd 36-17

Ond, a dweud y gwir, nid hon yw'r her fwyaf: y brif dasg yw perswadio pobl bod rygbi byw yn werth ei wylio, ac yn parhau i ddangos bod gan Flaenau Gwent dîm sy'n gallu cystadlu â'r gorau yng Nghymru.

Mae fwy o luniau o gemau Glyn Ebwy i'w gweld ar wefan Flickr ffotograffwyr y clwb, NCR Photography a Graham Davies.