Galw am symud cofeb ryfel Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Cofeb ryfel Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,
Ydy'r safle presennol yn amherthnasol?

Mae safle cofeb ryfel Caerfyrddin o flaen hen safle Ysbyty'r Priordy yn "amherthnasol", yn ôl AS lleol.

Dywedodd Simon Hart fod angen trafodaeth ymysg pobl leol a gofyn a ydyn nhw'n meddwl y dylai'r gofeb gael ei symud.

Agorwyd hen Ysbyty'r Priordy Caerfyrddin yn 1858 ond erbyn hyn mae rhai'n meddwl bod lleoliad y gofeb yn flêr.

Dywedodd Mr Hart: "Dyma ble roedd milwyr oedd wedi'u hanafu yn dod pan oedden nhw'n cyrraedd yn ôl o ba bynnag ryfel oedden nhw wedi bod yn brwydro ynddo.

"Felly roedd yn addas iawn bod y gofeb yma.

"Wrth gwrs, mae hynny wedi newid erbyn hyn a'r cyfan rwy'n ceisio ei wneud yw gofyn y cwestiwn - a yw hwn yn lle da ar gyfer y gofeb neu a oes yna le arall gwell?"

Disgrifiad o’r llun,
Agorwyd hen Ysbyty'r Priordy Caerfyrddin yn 1858

Caeodd yr ysbyty yn 1996 a chafodd ei brynu gan ddatblygwr gyda'r bwriad o'i droi i mewn i fflatiau, ond mae brwydr gyfreithiol yn parhau rhwng y perchennog a Chyngor Caerfyrddin.

Mae'r cyngor yn dweud y byddan nhw'n croesawu dadl am leoliad y gofeb.

Adfer cyflwr

Dywedodd y Cynghorydd Tref Alun Lenny mai adfer cyflwr y gofeb ddylai fod yn flaenoriaeth.

"Mae'n gofeb efydd gan Goscombe John, cerflunydd Cymreig enwog o Gaerdydd ...

"Gan fod yr ysbyty yn debygol o gael ei adnewyddu fel fflatiau, efallai mai'r peth calla yw hyn, disgwyl i weld sut y bydd y gofeb yn edrych wedi'r adnewyddu cyn penderfynu ei symud neu beidio."