Gwasanaethau ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost
- Cyhoeddwyd

Fe fydd gwasanaethau yn cael eu cynnal ledled Cymru ddydd Mawrth ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost.
Fe fydd y coffâd cenedlaethol yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, fel rhan o ddiwrnod i gofio dioddefwyr a'u teuluoedd.
Mae gwasanaethau hefyd yn Wrecsam, y Drenewydd, Caernarfon, Castell Nedd, Casnewydd, yr Wyddgrug ac Aberystwyth ddydd Mawrth.
Mae Ysgol Uwchradd Y Fflint wedi cael ei ddewis fel un o 70 o leoliadau ar draws y DU i danio cannwyll sydd wedi ei dylunio'n arbennig fel rhan o'r coffâd.
'Dyletswydd' i gofio
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, fydd yn bresennol yn y gwasanaeth yng Nghaerdydd: "Rwy'n falch o ail-bwysleisio ein hymrwymiad yng Nghymru i gofio am y rheini a fu farw dan orthrwm y Natsïaid, yr Holocost ac achosion eraill o hil-laddiad."
"Mae Cymru'n parhau i gynnig cartref i lawer o bobl sydd wedi dianc o erledigaeth.
"Mae'n ddyletswydd arnom i gadw'r straeon hyn o ddewrder yn fyw fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu pa mor lwcus ydyn ni o fyw mewn cymdeithas oddefgar a chyfiawn.
"Mae'n bwysig na chaiff erchyllterau fel hyn eu hailadrodd eto."
Cafodd Diwrnod Cofio'r Holocost ei ddechrau gan lywodraeth y DU yn 2001 ac mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ar Ionawr 27 bob blwyddyn i'w nodi.
Mae digwyddiad eleni hefyd yn nodi 70 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau ac 20 mlynedd ers yr hil-laddiad yn Srebrenica, Bosnia.