Angen newid 'radical' i restrau aros
- Cyhoeddwyd

Gall ysbytai leihau rhestrau aros gyda chamau radical i atal "gor-driniaeth", yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae'r swyddfa wedi darganfod bod 11% o gleifion wedi disgwyl am fwy o amser na'r targed o 26 wythnos ar gyfer triniaethau nad oedd yn frys ym mis Mawrth 2014, ac nad yw'r targedau wedi cael eu cyrraedd ers 2010.
Yn ôl adroddiad, byddai "gofal iechyd pwyllog" yn canolbwyntio ar leiafswm y driniaeth sydd angen, yn gallu arbed amser ac adnoddau.
Dywedodd y Prif Archwilydd Huw Vaughan-Thomas bod angen i'r gwasanaeth iechyd "weithredu yn gryf ac yn ddewr" i wneud newidiadau arwyddocaol.
"Rydyn ni'n glir yn ein darganfyddiadau; dyw'r dull presennol ddim yn rhoi amseroedd disgwyl isel a chynaliadwy," meddai.
"Fel rydw i wedi pwysleisio o'r blaen, rhaid cael trafodaeth agored ac onest am y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu gweithredu."
Mae'r adroddiad - Amseroedd Disgwyl y GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru - yn galw ar y gwasanaeth iechyd a Llywodraeth Cymru i "ail-lunio" trefn cleifion allanol i atal "gor-driniaeth".