Mwy o heddlu ar y stryd wedi digwyddiadau yn Y Sblot
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cynyddu eu presenoldeb yn ardal Y Sblot o Gaerdydd yn dilyn digwyddiadau a adawodd dyn 33 oed gydag anafiadau difrifol.
Roedd nifer o ddynion yn rhan o'r digwyddiadau ddydd Llun, ac mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod dyn 31 oed wedi cael ei arestio.
Mae'r ardal lle ddigwyddodd yr ymosodiad ar Wilkinson Close, wedi ei gau i ffwrdd ac mae'n cael ei warchod gan yr heddlu.
Cafodd dyn gyda bat pêl fas ei weld yn malu car ar Ffordd Sblot, cyn i'r car gael ei yrru i ffwrdd, yn ôl un tyst.
Ymholiadau'n parhau
Mae swyddogion yn apelio am dystion i ddigwyddiadau ar Heol Mercia, Ffordd Sblot, Stryd Habershon a Wilkinson Close.
Mae'r heddlu yn dweud fod y digwyddiadau ar Ffordd Mercia wedi digwydd rhwng 11:00-14:00.
Dywedodd tyst arall wrth BBC Cymru ei bod wedi clywed gweiddi a rhegi cyn iddi gerdded heibio Wilkinson Close, lle gwelodd hi swyddogion yr heddlu ac ambiwlansys a dyn yn gorwedd ar y llawr.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru mewn ambiwlans awyr, gan ei fod mewn cyflwr difrifol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tracey Rankine: "Ni fydd digwyddiadau o'r math hwn yn cael eu goddef ac rydym eisoes wedi arestio un person, rydym hefyd yn gwneud ymholiadau eraill sy'n ymwneud a'r ymchwiliad hwn."