Llefarydd UKIP am weld Jac yr Undeb ymhob ysgol
- Cyhoeddwyd

Mae llefarydd diwylliant UKIP wedi dweud ei fod yn dymuno gweld baner 'Jac yr Undeb' yn cael ei harddangos ymhob ysgol yng Nghymru, yn ogystal â gweddill Prydain.
Mae Peter Whittle hefyd am weld llai o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad yn yr ystafell ddosbarth i hyrwyddo ymdeimlad o hunaniaeth Brydeinig.
"Hoffwn annog ysgolion i arddangos y Jac yr Undeb. Mae'r amser wedi dod inni dynnu at ein gilydd ac ailddatgan pwy ydym ni.
"Byddwn yn sicr yn hoffi gweld Jac yr Undeb yn cael ei arddangos mewn ysgolion.
"Nid yw hyn yn bolisi gan UKIP, ond fe hoffwn weld hyn yn digwydd."
Mae Mr Whittle yn gwrthwynebu cael gormod o ieithoedd yn cael eu siarad gan blant yn y dosbarth.
"Yn ddiweddar, mi gafodd neges ei chyflwyno i mi yn dweud bod yna gymaint o wahanol ieithoedd yn cael ei siarad ar yr iard, a tydi hynny yn beth gwych?
"Sut y gallwch ddweud fod hyn yn wych? Gwelaf hyn fel rhwystr i gynnydd cymdeithasol ac yn rhwystr i gyd-lyniant cymdeithasol."
Cafodd y syniad o hedfan baner mewn ysgolion ei gynnig yn y gorffennol gan gyn-ymgeisydd arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Dr Liam Fox ond derbyniwyd beirniadaeth negyddol o bob plaid.
Dywedodd llefarydd arall ar ran UKIP eu bod yn dymuno gwneud yn glir eu bod yn" ymhyfrydu yn ein cenedligrwydd cymhleth, ein Prydeindod gyda'r amrywiaeth o fewn y pedair gwlad gartref.
"Nid ydym mewn unrhyw ffordd yn dymuno gweld Jac yr Undeb yn tynnu oddi ar y Saltire yn yr Alban, y Ddraig yng Nghymru, a baner Ulster na baner San Siôr.
"Rydym yn hynod ffodus ar yr ynysoedd hyn, i gael hunaniaeth leol a chyffredinol, ac mae hyn yn rhoi cryfderau diwylliannol i'n gwledydd. "