Ysgol uwchradd Gymraeg i Bowys?
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun i ad-drefnu ysgolion uwchradd ym Mhowys wedi dechrau, allai arwain at gau nifer o ysgolion a sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf y sir.
Cefnogodd cabinet Cyngor Sir Powys awgrymiad i ddechrau ar y rhaglen ar 么l derbyn adroddiad gan gwmni gwasanaethau proffesiynol PricewaterhouseCoopers ar ysgolion uwchradd y sir.
Mae 12 ysgol uwchradd ym Mhowys ar hyn o bryd, ac mae dros 1,500 o lefydd gwag yn yr ysgolion yma.
Cefnogodd y cabinet yn unfrydol awgrymiadau i ail-gyflunio addysg uwchradd gan gau nifer o ysgolion, ac anelu at sefydlu o leiaf un ysgol uwchradd Gymraeg.
Mae adroddiad PwC yn awgrymu y byddai angen cau tair ysgol, ac y byddai hyn yn lleihau'r llefydd gwag mewn ysgolion o 1,521 i 79. Ni chafodd unrhyw ysgolion eu henwi fel y rhai oedd fwyaf tebygol o gau.
Newidiodd y cabinet ei awgrym gwreiddiol o anelu i gau tair ysgol, i gau "nifer digonol".
Dywedodd y Cynghorydd Arwel Jones, sy'n gyfrifol am addysg, wrth y cabinet y dylai'r ad-drefnu ddarparu model ymarferol ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf.
Does dim manylion wedi cael eu rhoi am ba ysgolion fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan yr ad-drefnu, na lleoliad posib ar gyfer yr ysgol Gymraeg chwaith.
Dywedodd Mr Jones y buasai adroddiad manwl ar y mater yn cael ei gyflwyno i'r cabinet mis Mawrth.