RNLI: Mwy o bobl yn cael eu hachub yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau diweddaraf Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) yn dangos bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl cafodd eu hachub oddi ar arfordir Cymru.
Mae'r ystadegau yn dangos bod nifer y bobl cafodd eu hachub gan fadau'r RNLI ar ei uchaf ers 2006, gyda 1,244 wedi eu hachub yn 2014, cynnydd o 8% ar y flwyddyn flaenorol.
Gorsaf bad achub Porthcawl oedd y prysuraf yng Nghymru, gyda'r badau'n cael eu lansio 73 o weithiau yn 2014, i'w gymharu â 49 o weithiau yn 2013.
Cafodd y nifer fwyaf o bobl, 82, eu hachub gan fadau o orsaf Y Mwmbwls, a chafodd 81 o bobl eu hachub gan yr RNLI ym Mhenarth.
'Cyngor yn taro deuddeg'
Dywedodd Nicola Davies, Rheolwr Lleihau Digwyddiadau Cymunedol y RNLI: "Mae ein neges i'r cyhoedd yn parhau i argymell eu bod yn ymweld â'r arfordir mewn grŵp, yn hytrach nag ar ben eu hunain. Mae hi'n ymddangos bod ein cyngor yn taro deuddeg.
"Tra bod pobl yn y gorffennol wedi cymryd rhan mwn gweithgareddau ar ben eu hunain, erbyn hyn maen nhw'n meddwl ddwywaith ac yn ystyried bod mynd i'r arfordir mewn grŵp yn fwy diogel.
"Felly, mae mwy o bobl nag erioed yn cael eu hachub.
"Yn hytrach na cheisio achub eu hunain, mae pobl yn sylweddoli'r angen i alw 999 yn gynt, ac o ganlyniad mae ein criwiau gwirfoddol wedi bod yn ofnadwy o brysur."
'Rhagor o waith eto i'w wneud'
Cafodd badau achub eu lansio 1,076 o weithiau yng Nghymru yn 2014, gyda 584 o'r rheiny i achub cychod hamdden a 388 i ymateb i bobl mewn trafferthion.
Mae trafferthion peiriannyddol yn parhau'n broblem sylweddol, gyda badau achub wedi cael eu lansio am y rheswm yma 230 o weithiau yn 2014, a chafodd y badau eu galw 130 o weithiau yn 2014 wedi i bobl gael eu hynysu gan y llanw.
Ychwanegodd Nicola Davies: "Hoffwn annog pobl i gymryd golwg ar y tywydd a'r llanw cyn iddyn nhw adael y tŷ.
"Mae rhagor o waith eto i'w wneud wrth geisio addysgu pobl i adnabod y peryglon, oherwydd mae ein rôl ni'n cynnwys atal peryglu bywydau, ynghyd â'u hachub.
"Mae tîm diogelwch yr arfordir yn gweithio'n galed i ystyried yr ardaloedd sy'n peri pryder, gan weithio ar lefel leol i adnabod y problemau a sut y gallwn ni fynd i'r afael â nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2014