Marwolaeth ar ôl cymryd cyffuriau dirgel

  • Cyhoeddwyd
Nina HolmesFfynhonnell y llun, Dean Herbert's facebook page
Disgrifiad o’r llun,
Nina Holmes

Penderfynodd cwest fod dynes o Abertawe wedi marw ar ôl cymryd cyffuriau tra ar wyliau sgïo ym Mwlgaria.

Roedd Nina Holmes, 33 oed, yn credu ei bod wedi prynu cocên ond mae union union gynnwys y cyffur yn parhau'n ddirgelwch,

Clywodd y cwest fod Ms Holmes wedi bod yn yfed gyda ffrindiau yn Borovets ar Chwefror 3, 2013.

Roedd grŵp o ffrindiau wedi cyfrannu tua £200 er mwyn prynu pum bag o gyffuriau y tu allan i glwb nos.

Er bod cynnwys y cyffur yn parhau yn ddiogelwch fe benderfynodd y gwrandawiad mai dyma achosodd ei marwolaeth.

Cafodd rheithfarn o farwolaeth drwy anffawd ei gofnodi.

Dywedodd patholegydd fod gwenwyno wedi achosi problemau anadlu a chyflymu'r galon.