24 awr yn yr Uned Frys

  • Cyhoeddwyd
Nyrsys ar ddechrau eu shifft yn yr Uned Frys
Disgrifiad o’r llun,
Nyrsys ar ddechrau eu shifft yn yr Uned Frys

Mae staff yn uned frys ysbyty mwya' Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw wedi bod yn gweithio o dan bwysau aruthrol dros y misoedd diwethaf.

Roedd Uned Frys Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn llawn erbyn 01:30 y bore, oedd yn golygu fod pob gwely wedi'i lenwi - ond noson gymharol dawel oedd o'i gymharu â'r arfer yn ôl staff.

Mae gohebwyr BBC Cymru, Owain Clarke - ein gohebydd iechyd, ac Iolo James, wedi treulio 24 awr yn Uned Frys yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.

20:00

Newydd gyrraedd yr Uned Frys yn ysbyty mwya' Cymru - ac un o'r unedau prysura' o'i bath yn y wlad.

Disgrifiad o’r llun,
Ar y chwith: Sharon O'Brien, Prif Nyrs yr Uned Frys

Mae'r dderbynfa yn dawel ar hyn o bryd, ond mae'r staff yn gwybod y gall hynny newid unrhyw bryd.

Meddai Sharon O'Brien, Prif Nyrs yr Uned Frys:

"Mae 80 ambiwlans 'di dod mewn mor belled heddi, a 'da ni'n rhagweld y bydd 'na 40 i 50 yn fwy erbyn naw'r bore.

"Mae 'na lot o ambiwlansys, mae'r uned yn brysur iawn fel arfer.

"Mae 'na tua 400 o bobl yn dod drwy'r uned bob dydd, a thua 150 o'r rheiny yn mynd i'r uned majors.

"Dwi'm yn gweithio yn yr Uned Frys am y clod, dwi'n neud e i helpu'r bobl."

22:00

Mae'r dderbynfa'n parhau'n weddol dawel, ond mae 'na rai pobl wedi dod mewn gydag anafiadau. Mae 'na ryw bedwar o bobl yn aros i gael triniaeth.

"Fe ddes i yma oherwydd bod yr ysbyty mor agos…Y tro diwetha' ddes i 'ma ges i 'ngweld yn gyflym iawn," meddai Lewis Millar, myfyriwr ddaeth i mewn wedi anafu ei droed.

Ond os yw hi'n dawel fan hyn, dyw hynny ddim o reidrwydd yn wir am rannau eraill yr uned.

Disgrifiad,

Owain Clarke yn holi'r Nyrs Steffan Simpson am wahanol rannau'r Adran Frys

22:30

Gall pethau newid yn sydyn yn yr Uned Frys - o fewn chwarter awr, mae'r ardal adfywio yn prysuro. Hon yw'r adran sy'n derbyn cleifion sydd mewn cyflwr difrifol wedi iddyn nhw ddod o'r ambiwlans.

Mae'r adran wedi derbyn dwy alwad am achosion ble y gallai bywydau fod mewn perygl - un dyn 62 oed gyda phoen yn ei frest, a dynes yn gwaedu. Mae'r ddau yn cyrraedd yr ysbyty mewn ambiwlansys o fewn munudau i'w gilydd - mae'r dyn angen gweld cardiolegydd.

23:00

Mae'n dod i'r amlwg fod yr Uned Frys yng Nghaerdydd yn lleddfu baich Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ble mae'r unedau brys yn llawn a'r ysbytai yn anfon cleifion i'r brifddinas yn lle.

Disgrifiad o’r llun,
Mae pethau'n prysuro wrth i'r noson fynd yn ei blaen

23:30

Bydd angen i'r ddau glaf gyrhaeddodd yr uned adfywio'n gynharach aros yn yr ysbyty erbyn gweld - felly ymweliad â'r Uned Asesu, sy'n derbyn cleifion o'r Uned Frys pan na fydd lle ar y wardiau. Mae hefyd yn derbyn cleifion sy'n cael eu cyfeirio i'r ysbyty gan eu meddygon teulu. Ddydd a nos, mae'r uned yma o hyd yn brysur.

Mae'r ardal hon yn gallu bod dan ei sang gyda nifer y cleifion oedrannus sy'n dod mewn - nifer ohonyn nhw angen gofal arbenigol ac angen aros yn yr ysbyty'n llawer hirach.

Hyd yn oed ar ôl cael eu trin, efallai byddan nhw angen rhagor o ofal gartre', allai arwain at oedi cyn eu rhyddhau o'r ysbyty. Mae hynny oll yn gallu achosi cylch dieflig.

Mae'r ffliw, a phwysau gan gleifion wedi'u cyfeirio i'r ysbyty gan feddygon teulu, i gyd wedi ychwanegu at bwysau mawr ar yr Uned Frys y gaea' hwn.

Disgrifiad o’r llun,
Dwy nyrs wrth eu gwaith

00:30

Ganol nos ac mae'r staff newydd gael gwybod mai dim ond dau o griwiau ambiwlans syn gweithio yn ardal Caerdydd a'r Fro ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu nad yw hi mor brysur - mae llai o ambiwlansys yn golygu llai o gleifion yn cyrraedd yr ysbyty, wrth gwrs.

Mae'r uned yn gweithredu ar Lefel 3 erbyn hyn. Nos Sul, er enghraifft, roedd hi'n Lefel 4, sy'n golygu ei bod yn brysur iawn. Mae wedi bod yn Lefel 4 sawl gwaith y gaea' hwn, rhywbeth sydd yn weddol gyffredin erbyn hyn, meddai un nyrs.

Dywedodd yr Uwch Nyrs Mary Scarboro: "Gyda'r cyflymder, a nifer y cleifion, mae'r diwrnod yn mynd mor gloi…Ma fe'n cal effaith arnoch chi, os mae 'na ddiwrnodau heriol….I'r rheiny sydd heb weithio 'ma, mae'n anodd deall yn iawn."

Disgrifiad,

Mae Gemma Jones yn esbonio wrth Ohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke, pa mor brysur mae'n gallu bod mewn canolfan alwadau iechyd, sy'n delio â chleifion yn aml cyn iddyn nhw fynd i'r ysbyty.

01:30

Hyd yn oed gydag ond dau griw ambiwlans ar ddyletswydd ar hyn o bryd, mae'r Uned Frys yn llenwi ac erbyn un o'r gloch y bore, mae 'na 28 yn rhagor o gleifion na sydd 'na o welyau ar gael yn yr ysbyty. Mae'n her barhaol i'r timau meddygol.

Effaith y diffyg gwelyau yw'r ffaith bod pum ambiwlans yn aros y tu allan i'r ysbyty. Os nad oes lle y tu mewn, yna mae 'na oedi wrth drosglwyddo cleifion o'r ambiwlansys.

Disgrifiad o’r llun,
Daeth i'r amlwg mai ond dau griw ambiwlans oedd ar ddyletswydd yng Nghaerdydd a'r Fro am gyfnod yn ystod y nos

03:30

Mae 'na lefydd yn dechrau bod ar gael yn yr Uned Frys. Erbyn hyn, mae 'na 16 o gleifion yn fwy yn yr uned na sydd 'na o welyau yn yr ysbyty.

04:00

Mae'r staff yn dweud ei bod wedi bod yn noson dawelach na'r arfer - ond eto, mae'n ymddangos yn brysur i rai sy'n edrych ar y cyfan o'r tu allan.

Maen nhw wedi gweld 104 o gleifion rhwng 19:00 a 7:00 o'i gymharu â'r hyd at 125 yr oedden nhw'n disgwyl.

Mae 'na 34 ambiwlans wedi cyrraedd yr ysbyty o'i gymharu â'r 40 oedd wedi'i ragweld ar ddechrau'r noson.

Dros nos, roedden nhw wedi anfon wyth claf i'r gwasanaeth meddygon teulu allan o oriau. Roedd 'na bedwar arall y bydden nhw wedi dymuno eu hanfon ond 'doedd dim apwyntiadau ar gael.

Roedd tri o'r cleifion gyrhaeddodd yr Uned Frys wedi'u hanfon gan feddygon teulu'r tu allan i oriau am eu bod hwythau mor brysur.

Rhwng pedwar ac wyth o'r gloch y bore, mae hi fel arfer yn eitha' sefydlog yn yr Uned Frys. Mae'r prysurdeb yn sicr yn parhau dros yr oriau nesa', gyda dim amser i laesu dwylo.

System dan bwysau, yn amlwg, gyda'r atebion o ran lleddfu'r pwysau yn anodd i'w cael.

Nos Fercher, bydd rhaglen deledu arbennig yn dilyn staff yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Bydd Y Sgwrs - Ysbyty Dan Bwysau i'w gweld ar S4C am 21:30.

Disgrifiad o’r llun,
Mae unedau fel Uned Frys Ysbyty Athrofaol Cymru dan bwysau'n rheolaidd