Amseroedd ymateb ambiwlansys y gwaetha' ar gofnod
- Cyhoeddwyd

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru wedi gwaethygu.
Cyrhaeddodd 42.6% o ymatebion brys i alwadau Categori A (perygl i fywyd ar unwaith) o fewn wyth munud ym mis Rhagfyr 2014 - sydd i lawr o 51% ym mis Tachwedd 2014 a 57.6% yn Rhagfyr 2013.
Y targed yw 65%.
Cafwyd 40,147 o alwadau brys yng Nghymru ym mis Rhagfyr, cynnydd o 11.2% ar ffigyrau mis Tachwedd 2014, a chynnydd o 7.6% ar ffigyrau mis Rhagfyr 2013.
Ddydd Mawrth daeth cyhoeddiad y byddai'r gwasanaethau ambiwlans brys yn derbyn hwb ariannol gwerth £11m gan Lywodraeth Cymru.
Bwriad y cyllid ychwanegol yw helpu parafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a chlinigwyr eraill cyn-ysbyty i ymateb i'r galw cynyddol gan y cyhoedd, yn arbennig dros fisoedd y gaeaf.
'Dim lle i laesu dwylo'
Mewn ymateb i'r ffigyrau ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Mae'r ffigyrau yma'n dangos y pwysau aruthrol oedd ar y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru ym mis Rhagfyr. Roedd y galw'n ddigynsail, gyda'r gwasanaeth yn derbyn 40,147 o alwadau yn ystod y mis, neu tua 1,295 y dydd. Ond mae'r ffigyrau'n siomedig, er hynny, a does dim lle i laesu dwylo o ran yr angen i wella'r perfformiad.
"Mae gwella perfformiad y gwasanaeth ambiwlans brys yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'r pecyn £11 miliwn gan y Gweinidog Iechyd yn brawf o hynny.
"Bydd y buddsoddiad yn galluogi'r gwasanaeth i brynu 17 o ambiwlansys brys newydd, fydd yn ymuno â'r 243 sy'n weithredol ar hyn o bryd. Bydd £8 miliwn ychwanegol yn sicrhau fod y gwasanaeth ambiwlans mewn gwell sefyllfa i ymateb yn gyflym i alwadau ar draws Cymru mewn achosion ble mae bywydau mewn perygl."
'Cwbl warthus'
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi ymateb i'r ffigyrau drwy ddweud: "Mae'r ffigyrau yma'n gwbl warthus gan ddangos yn glir y llanast sy'n wynebu'r gweinidog iechyd.
"Mae angen gweithredu ar unwaith i fynd i'r afael â'r dirywiad difrifol yn amseroedd ymateb ambiwlansys.
"Rhain yw'r amseroedd ymateb gwaethaf erioed ac mae hi'n hanfodol bod y gweinidog iechyd yn gweithio gyda phawb sydd â diddordeb yn y gwasanaeth iechyd er mwyn ymdrin â'r materion difrifol sy'n wynebu'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.
"Er gwaethaf ymdrechion gweithwyr y GIG yng Nghymru, nid yw Cymru wedi llwyddo i gyrraedd y targed ar gyfer amseroedd ymateb ambiwlansys ers blynyddoedd, ond rydym ni wedi cyrraedd isafbwynt newydd ac mae Mr Drakeford yn wynebu cwestiynau difrifol."
'Anfaddeuol'
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, fe "ddylai Llywodraeth Cymru fod â chywilydd."
"Mae'r ffaith fod rhai ardaloedd yn gweld cyfraddau cyn ised â 30% ar gyfer galwadau brys yn anfaddeuol. Tu ôl i'r ystadegau hyn mae 'na bobl sy'n aml angen sylw ar frys ond sydd ddim yn cael y gofal sydd ei angen mewn pryd.
"Er bod 'na gynnydd yn nifer y galwadau brys o'i gymharu â'r mis blaenorol, does dim esgus am fethiant ar y raddfa hon.
"Mae staff a pharafeddygon y gwasanaeth iechyd yn gweithio'n hynod o galed ac yn gwneud gwaith eithriadol o anodd, rhywbeth 'da ni gyd yn ddiolchgar amdano, ond mae hyd yn oed nhw'n cyfadde' yn breifat nad ydyn nhw'n cael yr adnoddau maen nhw eu hangen i wasanaethu pobl Cymru."
'Ddim yn syndod'
Dywedodd llefarydd Plaid cymru ar iechyd, Elin Jones AC: "Dyw'r amseroedd ymateb hyn ddim yn syndod yn y byd o gofio ein bod yn gwybod fod ambiwlansys wedi bod yn sefyll mewn rhesi y tu allan i ysbytai dros yr wythnosau diwethaf.
"Mae parafeddygon yn gorfod wynebu'r pwysau ar y gwasanaeth a achoswyd oherwydd diffyg integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a diffyg cynllunio.
"Fy mhryder i yw, tra bod ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai, fod ardaloedd helaeth o Gymru yn cael eu gadael yn amddifad o ambiwlans am gyfnodau meithion ar y tro."