Joanna Michael: Gwrthod cais esgeulustod
- Cyhoeddwyd

Mae teulu mam i ddau o blant gafodd ei thrywanu i farwolaeth wedi methu yn eu cais i ddwyn achos o esgeulustod yn erbyn dau o heddluoedd Cymru yn y Goruchaf Lys.
Cafodd Joanna Michael, 25, o Laneirwg, Caerdydd, ei llofruddio gan ei phartner, Cyron Williams, 19, ym mis Awst 2009.
Dywedodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu fod Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent, yn ogystal â'r system 999, wedi methu Ms Michael yn yr achos hwn.
Dywedodd y Goruchaf Lys na fyddai teulu Ms Michael yn gallu parhau gyda'u cais yn erbyn y ddau lu.
Roedd rhieni a phlant Ms Michael wedi llwyddo i ennill yr hawl i ddod â chais am iawndal yn erbyn y ddau lu yn 2011, ond cafodd y cais ei wrthod gan y Llys Apêl oherwydd bod yr heddlu yn cael eu heithrio rhag achosion o esgeulustod.
Roedd y teulu wedi gobeithio y byddai'r Goruchaf Lys yn gwrthdroi'r penderfyniad, ond cawson nhw eu siomi ddydd Mercher pan benderfynodd barnwyr o fwyafrif o 5-2 i wrthod apêl y teulu.
Ond roedd y saith barnwr wedi gwrthod, yn unfrydol, croes-apêl prif gwnstabliaid Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.
Roedd yr heddluoedd eisiau atal penderfyniad cysylltiedig barnwyr y Llys Apêl y dylai'r teulu gael parhau gyda chais yn honni bod eu hawliau dan Erthygl 2 Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wedi cael eu heffeithio gan fethiant yr heddlu i ddiogelu bywyd Joanna.
Carchar am oes
Fe ffoniodd Ms Michael 999 ddwywaith ar y noson y cafodd ei lladd ond roedd hi wedi marw erbyn i'r heddlu ei chyrraedd.
Galwodd Heddlu Gwent am 02:29 gan ddweud wrth y gweithiwr bod Williams yn ei chartref ac yn bygwth ei lladd.
Cafodd yr alwad ei throsglwyddo i Heddlu De Cymru, y llu oedd yn gyfrifol am yr ardal ble roedd Ms Michael yn byw.
Ar ôl i'r alwad gael ei throsglwyddo, dylai'r alwad fod wedi cael ei nodi fel un oedd angen ymateb ar unwaith, ond mi gafodd ei nodi ar lefel is.
Wedi i swyddogion fethu â chyrraedd, galwodd Ms Michael 999 eto am 02:43 ac yn ystod yr alwad honno roedd modd ei chlywed yn sgrechian cyn i'r cysylltiad ffôn dorri.
Cyrhaeddodd yr heddlu'r tŷ am 02:51, ond yn y 22 munud roedd hi wedi cymryd i ymateb i'r alwad gyntaf, roedd Ms Michael wedi cael ei llofruddio.
Cafodd ei thrywanu 72 o weithiau ac roedd ei phlant ifanc yn y tŷ ar y pryd.
Derbyniodd Williams ddedfryd o garchar am oes ym mis Mawrth 2010, wedi iddo gyfaddef i gyhuddiad o lofruddiaeth yn Llys y Goron Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2014