Ymgyrch Pallial: Cyhuddo dau
- Cyhoeddwyd

Dyma'r cyhuddiadau diweddaraf o ganlyniad i Ymgyrch Pallial, ymchwiliad sy'n cael ei harwain gan swyddogion yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).
Mae cwpl wedi eu cyhuddo o gamdrin plant fel rhan o Ymgyrch Pallial i gamdrin hanesyddol mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.
Mae'r dyn a'r ddynes o Seaford, Sussex, wedi eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â dau fachgen, y ddau yn iau na 16 oed pan ddigwyddodd y troseddau honedig rhwng 1975 a 1980.
Fe fydd y ddau yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Wrecsam ar 25 Mawrth.
Dyma'r cyhuddiadau diweddaraf o ganlyniad i Ymgyrch Pallial, ymchwiliad sy'n cael ei harwain gan swyddogion yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).
Bellach mae 31 o ddynion a phedair o ferched wedi cael eu harestio neu eu holi fel rhan o'r ymchwiliad.
Hyd yn hyn mae 291 o bobl wedi cysylltu â'r asiantaeth i adrodd honiadau, gyda'r heddlu yn ymchwilio i 249 o gwynion.