Dan Evans
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Dan Evans: Beth sy'n gwneud cefnwr da?

29 Ionawr 2015 Diweddarwyd 08:14 GMT

Pa rinweddau sydd eu hangen ar gefnwr? Dan Evans o'r Gweilch sy'n esbonio beth sy'n gwneud rhif 15 da.

Wedi chwarae i'r Scarlets ac i'r Dreigiau, crys rhif 15 y Gweilch yw crys Dan Evans erbyn hyn. Mae'n esbonio beth yw'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i fod yn gefnwr da.

Mae Evans wedi chwarae pob munud o bob gêm yng nghrys rhif 15 y Gweilch yn y Pro 12 y tymor hwn, ac yn fwy na chymwys i ddweud beth sy'n gwneud cefnwr da, felly fe wnaeth Clwb Rygbi ddal lan gyda fe cyn iddo chwarae'r Dreigiau.

Wrth i'r Pro 12 gymryd hoe, bydd Clwb Rygbi yn darlledu pob un o gemau Cymru o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ogystal â thair o gemau'r tîm dan 20. Y cyffro yn dechrau gyda'r gêm fawr i ddechrau'r Bencampwriaeth rhwng Cymru a Lloegr. Y rhaglen i ddechrau am 1915 ar y 6 Chwefror ar S4C.