Pryderon ariannol Clwb Ffermwyr Ifanc

  • Cyhoeddwyd
Clwb Ffermwyr IfancFfynhonnell y llun, Clwb Ffermwyr Ifanc

Mae arweinwyr Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI) wedi lleisio pryderon am ddyfodol y mudiad, yn dilyn y newyddion y bydd y mudiad yn colli dwy o'i brif ffynonellau cyllid, gwerth £360,000 dros dair blynedd.

Yn y gorffennol mae cyllid gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a Llywodraeth Cymru trwy raglen grantiau 'Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol' wedi ariannu rhaglen addysg a datblygiad personol i 6,000 o aelodau'r Clwb ar draws 155 o glybiau ledled Cymru.

Ond mae CFfI wedi clywed y bydd y ffynonellau incwm hyn yn dod i ben ar 1 Ebrill eleni - sydd yn golygu na fydd y mudiad yn derbyn £120,000 o grantiau y flwyddyn am y dair blynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyfarfod swyddogion y mudiad i drafod eu ceisiadau.

'Hynod Siomedig'

Dywedodd cadeirydd CFfI Cymru, Iwan Meirion: "Rydym yn hynod siomedig o dderbyn y newyddion hyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol.

''Mae'r cyllid hwn yn angenrheidiol i ni gynnal ein rhaglenni addysgol i filoedd o bobl ifanc sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru.

''Er ein bod ni'n deall ac yn disgwyl y byddai'r mudiad yn gorfod ysgwyddo rhywfaint o faich y toriadau yn y sector cyhoeddus, roedd maint y toriadau hyn yn syndod mawr".

Ychwanegodd: "Dros y degawdau, mae'r CFfI wedi elwa o gefnogaeth neilltuol gan bobl cefn gwlad, rhanddeiliaid a mudiadau'r sector cyhoeddus.

''Rydym yn galw ar bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig i'n helpu ni sicrhau dyfodol y mudiad hwn sydd wedi bod o fudd i filoedd lawer o bobl ifanc dros y blynyddoedd."

Mae swyddogion CFfI Cymru eisoes wedi cynnal cyfarfodydd gyda rhai aelodau o'r Cynulliad a hefyd gydag uwch-swyddogion y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans i drafod y sefyllfa.

'Grant Cystadleuol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ''Fe wnaethon ni lansio ein Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol i Gymru 2014-18 ym mis Chwefror 2014, a chyhoeddi cynllun grantiau Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol i fudiadau gwirfoddol ym maes gwaith ieuenctid.

''Mae'r grant Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol yn grant cystadleuol fydd yn cynnig arian craidd ac arian prosiect i gefnogi mudiadau gwirfoddol ym maes gwaith ieuenctid o fis Ebrill 2015.

''Fe wnaeth panel ymgynghorol, gan gynnwys cynrychiolwyr allanol, ystyried a sgorio 14 o geisiadau am grantiau ym mis Tachwedd ac awgrymu'n unfrydol y dylai'r saith mudiad oedd wedi sgorio uchaf dderbyn arian grant o Ebrill 2015.

"Rydym wedi cynnig cyfarfod Ffederasiwn Cymreig Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru i drafod eu ceisiadau, fel y gallant ddefnyddio'r adborth wrth ystyried unrhyw geisiadau yn y dyfodol''.