Cyngor wedi siomi â phenderfyniad i beidio cau ysgol
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud eu bod wedi siomi gyda phenderfyniad Gweinidog Addysg Cymru i wrthod yr argymhelliad i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd.
Mae rhieni'r ysgol, yr Eglwys yng Nghymru ac Aelodau Cynulliad wedi bod yn ymgyrchu i gadw'r safle ar agor am bron i ddwy flynedd.
Roedd y Sir yn bwriadu cau'r ysgol fel rhan o gynlluniau ehangach i ad-drefnu addysg gynradd yn ardal Rhuthun.
Yn wreiddiol, fe bleidleisiodd y cyngor o blaid cau'r ysgol erbyn mis Awst y llynedd gan ddadlau fod yna ormod o lefydd gwag ynddi. O ganlyniad fe benderfynodd yr Eglwys yng Nghymru gyfeirio'r mater at y Gweinidog Addysg, Huw Lewis.
Diffygion amlwg
Wrth ymateb i'r cais fe ddywedodd Huw Lewis fod diffygion amlwg ym mhroses ymgynghori'r sir.
Ychwanegodd ei fod yn cytuno gyda'r Awdurdod Lleol bod gostyngiad yn niferoedd y disgyblion yn gallu effeithio ar ddarpariaeth addysg - ond bod staff Ysgol Llanbedr wedi llwyddo i gynnal safonau yn ystod cyfnodau anodd.
Wrth ymateb i'r newyddion fe ddywedodd un o rieni'r ysgol, Rob Atkinson: "Rydw i'n falch iawn gyda'r penderfyniad yma. Mae'r broses wedi creu lot o broblemau gyda rhai rhieni yn penderfynu symud eu plant o'r ysgol oherwydd yr ansicrwydd dros ddyfodol y safle.
"Rydw i'n teimlo fod yr ysgol yn haeddu ymddiheuriad swyddogol gan y cyngor. Mae staff wedi gweithio'n galed i barhau a'u gwaith yn y cyfamser ac rydyn ni'n gwerthfawrogi hynny."
Fe ddywedodd Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Esgobaeth Llanelwy, Rosalind Williams: "Rydyn ni'n falch o benderfyniad y Gweinidog ond rydyn ni hefyd yn ymwybodol bod angen gwneud llawer o waith caled i sicrhau fod gan yr ysgol dyfodol llewyrchus yng nghymuned Llanbedr.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda'r Awdurdod Leol i benodi Pennaeth newydd i'r ysgol ac i gynyddu nifer ein disgyblion yn y dyfodol."