Y Gweilch yn arwyddo Brendon Leonard o'r Crysau Duon
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweilch wedi arwyddo'r mewnwr Brendon Leonard o Zebre yn yr Eidal ar gytundeb tair blynedd.
Fe fydd y chwaraewr 29 oed, sydd wedi ennill 13 o gapiau dros Seland Newydd, yn cynnig profiad helaeth i'r Gweilch yn absenoldeb Rhys Webb tra'i fod ynghlwm a dyletswyddau rhyngwladol gyda Chymru.
Gêm olaf Leonard mewn crys du, oedd pan enillodd Seland Newydd o 19-12 yn erbyn Cymru yn 2009.
Ymunodd Leonard Zebre yn Awst 2013 o Waikato ar gytundeb dwy flynedd.
Gwnaeth argraff pan gurodd Zebre'r Gweilch am y tro cyntaf ym mis Mai, 2014, ac fe serennodd yn y fuddugoliaeth hanesyddol o 30-25 dros Gleision Caerdydd yn yr un tymor.
Dywedodd Leonard mewn datganiad: "Oes, mae gen i ddigon o brofiad, ac rwyf bob amser yn awyddus i ddefnyddio hynny i helpu fy nhîm, ond rwyf o'r meddylfryd nad ydych byth yn rhoi'r gorau i ddysgu, ble bynnag yr ydych yn mewn bywyd.
"Yr hyn sy'n fy nharo fwyaf o fod efo'r Gweilch yw bod yr amgylchedd yn un lle byddaf yn gallu parhau i ddysgu.
"Mae'n rhywbeth sy'n ddisgwyliedig gan bawb sydd yno."
Mae'r Gweilch wedi elwa yn y gorffennol o recriwtio chwaraewyr profiadol o Seland Newydd, gyda chwaraewyr fel Justin Marshall, Jason Spice, Filo Tiatia, Marty Holah, Jerry Collins, Adrian Cashmore a Campbell Johnstone i gyd wedi cyfrannu yn ystod eu hamser yn y Stadiwm Liberty.