Cynghorau Cymru: Ble nesaf?
- Cyhoeddwyd

Mae hi dros flwyddyn ers i gynrychiolwyr o'r pleidiau gwleidyddol ynghyd ag unigolion o fywyd cyhoeddus a busnes gyhoeddi adroddiad am ddyfodol ein cynghorau.
Ers hynny rydyn ni wedi clywed son yn gyson am Gomisiwn Williams a'i gynllun i leihau nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru i ddeuddeg neu lai.
Ond yn gynyddol, mae'n ymddangos yn lai a llai perthnasol i ymdrechion Llywodraeth Cymru i uno cynghorau.
Mae'r Gweinidog Leighton Andrews wedi gwrthod tri chais gwirfoddol gan gynghorau i uno - ac un o'r rheini'n rhan o'r map gafodd ei argymell gan y Comisiwn.
- Fe wnaeth Comisiwn Williams awgrymu bod nifer cynghorau Cymru yn cael eu torri i 12 neu 10.
- Y cynghorau oedd wedi cynnig uno oedd Conwy a Sir Ddinbych, Torfaen a Blaenau Gwent, a Phen-y-bont a Bro Morgannwg.
- Dywedodd Leighton Andrews nad oedd yr un o'r cynigion yn cyrraedd y meini prawf.
'Tu hwnt' i Williams
Ac er fod Leighton Andrews dal yn dweud ei fod yn gweithio ar sail y map yna, mae e hefyd wedi dweud bod cynlluniau presennol y Llywodraeth yn symud "tu hwnt" i Williams.
Felly os nid map Williams - be' fydd patrwm cynghorau Cymru yn y dyfodol?
Cynllun chwe chyngor sy'n cael ei ffafrio gan rai "ffigyrau blaenllaw" yn ei blaid meddai Leighton Andrews.
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi galw am glywed syniadau'r pleidiau eraill. Dywedodd y byddai'n eu gwahodd i gael trafodaethau, ond prin yw'r chwant am hynny ymhlith y pleidiau sy'n credu mai cyfrifoldeb Llafur yw cynnig cynllun.
Mae 'na son am 'fap' erbyn yr haf - ond mae'r broses hyd yma'n awgrymu bod cyrraedd y nod o sefydlu rhai o'r cynghorau newydd erbyn 2018 yn uchelgeisiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2014