Ceisiadau gofal: Mwy o waith i'w wneud
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi llwyddo i ddelio gyda nifer fawr o geisiadau am ofal hirdymor oedd wedi cronni cyn 2010, yn ôl adroddiad.
Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru godi pryderon yn 2013, oherwydd nifer fawr o geisiadau ar gyfer gofal iechyd parhaus oedd heb eu prosesu.
Ond yn ôl yr adroddiad, mae rhai byrddau iechyd yn dal i gael trafferth rhoi "gwybodaeth fanwl ac ystyrlon" ar geisiadau sydd wedi eu gwneud ers 2010, ac mae rhai cleifion yn cael eu trin yn "afresymol".
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus nad yw'r sefyllfa yn dderbyniol, ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod gwelliannau wedi eu gweithredu.
Gofal Iechyd Parhaus
Mae dros 5,000 o bobl yn gymwys am "ofal iechyd parhaus" gan y GIG, sy'n cynnwys gofal yn y cartref. Os yw cais unigolyn yn cael ei gymeradwyo, yna mae'r GIG yn gyfrifol am dalu am y gofal, all gynnwys costau cartrefi gofal.
Fe wnaeth archwilwyr godi pryderon yn 2013, ac fe gafodd 'Prosiect Powys' ei sefydlu gan y llywodraeth i ddelio gyda'r holl geisiadau.
Mae'r Swyddfa Archwilio nawr yn dweud bod pob un o'r ceisiadau gafodd eu gwneud cyn 2010 wedi eu prosesu, ond bod dros 4,000 o geisiadau newydd am arian wedi eu derbyn ers hynny.
Yn ôl archwilwyr, mae angen i'r llywodraeth gymryd rôl "gryfach" a rhoi gwell cyfarwyddiadau i fyrddau iechyd i gyflymu'r system o brosesu ceisiadau.
Dywedodd yr Archwiliwr Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: "Mae'r adroddiad yn dangos bod rhai llwyddiannau wedi bod ond bod gwaith i'w wneud i sicrhau newid yn y ffordd mae rhai byrddau iechyd yn delio gyda cheisiadau.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru gryfhau ei rôl mewn rheoli Gofal Iechyd Parhaus y GIG a sicrhau bod ceisiadau yn cael eu prosesu yn y ffordd fwyaf cyflym ac effeithlon ac sy'n bosib."
'Annerbyniol'
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Darren Millar AC: "Nid yw perfformiad rhai byrddau iechyd wrth ymdrin ag ôl-hawliadau yn dderbyniol ac mae angen rhoi sylw i hyn ar unwaith er mwyn sicrhau bod pobl yn cael ymateb yn brydlon ac yn rhesymol.
"Mae angen i GIG Cymru fod ar y blaen o ran y mater parhaus hwn, ac aros yno."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n croesawu'r canfyddiadau sy'n dangos bod gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud ers adroddiad cyntaf y Swyddfa Archwilio ym Mehefin 2013.
"Rydyn ni'n derbyn yr argymhellion ac wedi gosod y seiliau ar gyfer cynnydd pellach yn y system, gan gynnwys mwy o hyfforddiant, arweinyddiaeth gryfach ac adnoddau ar-lein i staff."