'Tystiolaeth newydd' yn achos y treisiwr Ched Evans
- Cyhoeddwyd

Mae'r pêl-droediwr Ched Evans, gafodd ei garcharu am dreisio yn 2012, wedi cyflwyno "tystiolaeth newydd" i geisio diddymu'r dyfarniad yn ei erbyn.
Cafodd Evans, sydd wedi chwarae pêl-droed dros Gymru, ei garcharu am bum mlynedd am dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn Y Rhyl.
Cafodd ei ryddhau'r llynedd ar ôl cwblhau hanner ei ddedfryd.
Mae datganiad ar ei wefan yn dweud bod tystiolaeth newydd wedi ei gyflwyno i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol gan ei gyfreithwyr, sy'n "cryfhau" ei achos.
'Tystiolaeth newydd'
Mae'r datganiad yn dweud: "Cafodd y cais i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol ar ran Ched Evans ei gyflwyno ar Orffennaf 15 2014, a chafodd flaenoriaeth lefel 1 ym mis Medi 2014.
"Ar ddydd Gwener, Ionawr 23 2015, cafodd cyflwyniad manwl - wedi ei gefnogi gan dystiolaeth newydd sy'n cryfhau achos Ched - eu cyflwyno i'r Comisiwn."
Cafodd cais i gael yr hawl i apelio yn erbyn y dyfarniad ei wrthod yn y Llys Apêl yn 2012.
Mae Evans wedi ceisio ail-ddechrau ei yrfa ar y cae ers gadael y carchar, ond mae wedi wynebu beirniadaeth gref gan rai.
Yn gynharach yn y mis, fe wnaeth Evans ymddiheuro am "effeithiau" yr hyn a wnaeth, ond mae'n parhau i fynnu ei fod yn ddieuog.
Straeon perthnasol
- 8 Ionawr 2015
- 11 Tachwedd 2014