System raddio ysgolion newydd yn dod i rym
- Cyhoeddwyd

Mae canlyniadau trefn newydd o raddio ysgolion Cymru wedi cael eu cyhoeddi ddydd Iau, gyda phob ysgol yn cael eu rhoi mewn categori lliw.
Fe fydd ysgolion mewn un o bedwar categori sy'n mynd o wyrdd, i felyn, oren a choch.
Mae'r drefn newydd yn disodli'r hen system fandio ddadleuol.
Mae'r llywodraeth yn mynnu y bydd yn helpu ysgolion i wella drwy eu hasesu dros dair blynedd yn lle dim ond un.
Ond mae undebau athrawon wedi mynegi pryder am y drefn newydd.
Cipolwg ar rai o'r canlyniadau
- Cafodd 1,332 o ysgolion cynradd eu hasesu.
- Fe gafodd 207 eu rhoi yn y categori gwyrdd.
- Roedd 58 yn y categori coch.
- Cafodd 211 o ysgolion uwchradd eu hasesu.
- Cafodd 31 eu rhoi yn y categori gwyrdd.
- Roedd 23 yn y categori coch.
Faint sy'n newid?
Fe wnaeth yr hen drefn fandio ddenu cryn feirniadaeth gan athrawon, oedd yn ei gweld fel system ddi-werth i fesur perfformiad oherwydd bod ysgolion yn dringo a syrthio rhwng y bandiau.
Roedd yna gryn orfoledd ym mis Medi'r llynedd wrth i'r Gweinidog Addysg Huw Lewis gyhoeddi y byddai'n hepgor y drefn honno.
Mi fydd ysgolion yn cael eu beirniadu am eu canlyniadau, presenoldeb a sut mae'r disgyblion o deuluoedd tlotaf yn perfformio.
Mae swyddogion y llywodraeth yn mynnu y bydd y system newydd yn rhoi darlun mwy defnyddiol - ond hefyd yn decach.
Yn ogystal â mesur canlyniadau, mae yna ail elfen i'r categoreiddio.
Mae'n edrych ar allu ysgol i wella, sydd wedi ei seilio ar farn y pennaeth, llywodraethwyr a chynrychiolwyr o'r pedwar consortiwm addysg sydd gennym ni yng Nghymru - sy'n gyfrifol am godi safonau ysgolion.
Unwaith y bydd yr holl waith cymedroli wedi ei wneud, mi fydd yr ysgol wedyn yn mynd i un o bedwar categori:
- Mae'r ysgolion gwyrdd yn rhai effeithiol sydd angen nesaf peth i ddim ymyrraeth gan eu bod yn darparu addysg penigamp;
- Mi fydd gan ysgolion categori melyn ambell i wendid, ond mi fydd ganddyn nhw hefyd strategaeth glir o ran sut mae gwella;
- Nid felly'r ysgolion oren. Mae gan y rhain nifer o wendidau - ac unai does dim cynllun i fynd i'r afael a hynny, neu dydyn nhw ddim yn gwella'n ddigon cyflym. Mi fydd help ar gael iddyn nhw;
- I'r ysgolion yn y categori coch, mi fydd nifer o ffaeleddau sy'n golygu bod angen cryn ymyrraeth i wella problemau.
Gwell na bandio?
Yn ôl y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, mi fydd yn helpu ysgolion cynradd ac uwchradd i wella drwy eu hasesu dros gyfnod o dair blynedd yn lle dim ond un.
Ond yn ôl Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon dydy'r system fawr gwell na bandio. Maen nhw'n mynnu y bydd hanner yr ysgolion wedi eu dyfarnu i fod yn israddol cyn dysgu'r un wers.
Maen nhw hefyd yn honni y bydd ysgolion sydd mewn ardaloedd tlawd ar eu colled, sy'n groes i nod y llywodraeth o geisio codi safonau'r plant o deuluoedd difreintiedig.
Wrth ymateb dywedodd Huw Lewis mai dim ond ceisio gwarchod eu buddiannau eu hunain oedd yr undeb.
Straeon perthnasol
- 25 Medi 2014
- 12 Rhagfyr 2013
- 7 Mai 2014