Cyfadde pwyntio pen laser at hofrennydd Heddlu'r Gogledd

  • Cyhoeddwyd
Hofrennydd Heddlu'r Gogledd
Disgrifiad o’r llun,
Hofrennydd Heddlu'r Gogledd

Yn Llys Ynadon Sir y Fflint mae bachgen ysgol 16 oed o Lannau Dyfrdwy wedi cyfadde pwyntio pen laser at hofrennydd Heddlu'r Gogledd.

Cafodd orchymyn cyfeirio a £65 o gostau.

Clywodd y llys y gallai'r drosedd fod wedi arwain at ganlyniadau marwol.

Roedd yr hofrennydd yn chwilio am droseddwyr honedig ym Mhenarlâg a fflachiodd y golau ddwywaith neu dair am 10 munud.

Gorchmynnodd yr ynadon y dylid difa'r pen laser oedd wedi ei gadw yng nghwpwrdd y bachgen.

Ar ran yr amddiffyn, dywedodd Brian Cross fod y bachgen yn "llawn edifeirwch".