Delweddau plant: Carchar i ddiddanwr
- Cyhoeddwyd

Mae consuriwr a diddanwr plant o Landrillo-yn-Rhos yng Nghonwy wedi ei garcharu am ddwy flynedd ar ôl cyfaddef cyfres o droseddau'n ymwneud â delweddau o gam-drin plant a chyffuriau.
Cafodd orchmyn i gofrestru fel troseddwyr rhyw am 10 mlynedd.
Mewn gwrandawiad blaenorol roedd Mark Whincup neu "Magic Mark", 50 oed, wedi pledio'n euog i bedwar cyhuddiad o ddosbarthu delweddau anweddus o blentyn, naw o wneud delweddau anweddus o blant, un o feddu ar 117 o ddelweddau anweddus ac un o feddu ar 743 o ddelweddau fideo anweddus.
Mae Whincup, yn ogystal â bod yn ddiddanwr plant, wedi gweithio gyda'r asiantaeth cyffuriau ac alcohol CAIS.
Roedd yn gweithio i ymgyrch "Peidiwch â Chyffwrdd, Dywedwch," ymgyrch oedd yn rhybuddio plant am beryglon nodwyddau cyffuriau.
Babi 12 mis oed
Hefyd plediodd yn euog i dri cyhuddiad o feddu ar ddelweddau "eithafol" o weithredoedd rhyw a thri chyhuddiad o gyflenwi'r cyffur dosbarth A, methamphetamin.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod un o'r fideos yn cynnwys babi 12 mis oed a'i bod yn "hynod drallodus."
Clywodd y llys sut oedd Whincup wedi ymfalchïo wrth rai â'r un tueddiadau ei fod yn gweithio fel diddanwr plant a'i fod wedi mynd ag un gŵr oedd â'r un meddylfryd i ymweld ag ysgol, gan honni ei fod ar brofiad gwaith.
Roedd yr holl droseddau rhwng Ionawr 2012 a Gorffennaf 2014.
Bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am 10 mlynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2014
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2014