Amgueddfeydd Cenedlaethol pwy?

Gari Wyn

Ers 2001 mae hi wedi bod yn bosibl i bobl ymweld â saith o amgueddfeydd mwyaf nodedig Cymru yn rhad ac am ddim. Ond mewn blog i Cymru Fyw mae'r gŵr busnes a'r darlledwr, Gari Wyn, yn dadlau bod angen edrych eto ar y cynllun hwnnw:

Mae yna saith amgueddfa nodedig sy'n dod o dan ofalaeth Amgueddfa Cymru.

Mae'r saith yn berlau rhyfeddol o ddisglair ac fel aelod o Bwyllgor Datblygu'r Amgueddfa ar hyn o bryd mi rydw i'n gwybod hefyd bod y rhai sy'n cael eu cyflogi yno, yn ogystal â'r cannoedd o wirfoddolwyr, yn bobl anhygoel o ymroddedig.

Ond mae yna gwestiynau i'w gofyn a phwyntiau sy'n haeddu eu codi ynglŷn â sut mae'r Amgueddfa'n cael ei rhannu i bobl Cymru. Ystyriwch y ffeithiau canlynol:

1) Mae yna saith amgueddfa. Mae chwech yn y de gydag un yn unig yn y gogledd (Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis).

2) Mae diwrnod i deulu o bump o Forgannwg fyddai'n ymweld â Sain Ffagan neu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn debygol o gostio ychydig bunnoedd yn unig (petrol a phryd o fwyd).

Byddai teulu cyffelyb o Wynedd neu'r gogledd ddwyrain yn gorfod meddwl yn nhermau cannoedd o bunnoedd (o ystyried y teithio a'r llety, sy'n anochel).

3) Mae ysgolion cynradd ac uwchradd o fewn 80 milltir i'r brifddinas yn debygol o allu trefnu taith fws am ychydig bunnoedd y pen tra bod pris bws o Wrecsam, Pwllheli neu Langefni yn debygol o gostio rhwng £1000 a £1200 gyda chost llety a bwyd yn ychwanegol.

Rydw i'n siŵr y buasech yn cytuno y byddai trip undydd nôl ac ymlaen ar yr A470 yn ddigon i ddifa'r wefr hanesyddol hyd yn oed i'r disgybl mwyaf brwdfrydig!

Image copyright Arall
Image caption Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis ydi'r unig un o'r amgueddfeydd cenedlaethol yn y gogledd

Mae'r sefyllfa bresennol o ganiatáu mynediad am ddim i'r amgueddfeydd yn ffars arwynebol. Creadigaeth gwleidyddion er mwyn ennill pleidleisiau ar ddechrau mileniwm newydd oedd y symudiad yma.

Petai pawb yn talu cyn lleied â phunt fechan mi allai hynny gael ei ddefnyddio i sybsideiddio'r disgyblion a'r myfyrwyr hynny sy'n methu â mynd i'n hamgueddfeydd oherwydd cost y teithio. Onid yw tegwch a chyfiawnder yn galw am y cymorth yma?

Mae yna filoedd ar filoedd o bobl yng ngogledd Cymru nad ydyn nhw erioed wedi gweld eiconau fel Sefydliad Gweithwyr Oakdale, cartrefi gweithwyr haearn Merthyr ac Eglwys Sant Teilo.

Ar hyn o bryd mae safleoedd archeolegol Llys Rhosyr a Bryn Eryr o Fôn wrthi'n cael eu hail godi yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.

Image caption Bryn Eryr, fel ag yr oedd yn Ynys Môn yn Oes y Cerrig. Ond rwan bydd y safle i'w weld yn Sain Ffagan ar gyrion Caerdydd

Tybed faint o blant Môn a Gwynedd a'r gogledd ddwyrain gaiff y fraint o gael ymweld â nhw dros y ddegawd nesaf?

Mae yna dros £25 miliwn yn cael eu gwario ar Sain Ffagan ar hyn o bryd. Bydd hyn yn ei gosod ymysg amgueddfeydd gwerin gorau Ewrop, os nad y byd.

Mae arian o'r Loteri a chronfeydd gwirfoddol o bob math wedi ei godi trwy waith staff y Bwrdd Datblygu a llu o unigolion gwladgarol.

Ond ymddengys i mi fod gogledd Cymru'n cael ei hamddifadu eto yn sgil y cyfoeth sy'n canoli fwy fwy ar ein prifddinas.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Fe ofynnodd Cymru Fyw i Lywodraeth Cymru am ymateb i bwyntiau Gari. Dywedodd llefarydd:

"Does ganddon ni ddim bwriad i newid ein polisi mynediad am ddim i'r saith atyniad o dan adain Amgueddfa Cymru. Ers i ni gyflwyno'r polisi hwn yn 2001 mae nifer yr ymwelwyr wedi mwy na dyblu a byddai dechrau codi tâl, hyd yn oed taliad bychan, bron yn sicr yn cael effaith negyddol ar hyn gan amharu ar wariant ar dwristiaeth a chynhwysiant cymdeithasol.

"Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am amgueddfeydd ar draws y wlad gan gynnwys yr Amgueddfa Lechi boblogaidd yn Llanberis. Mae yna bartneriaeth hefyd gydag Amgueddfa Wrecsam er mwyn arddangos rhai o eitemau'r casgliadau cenedlaethol yno.

"Rydyn ni'n cydnabod ei bod hi'n anodd i bobl yn y gogledd i fynd i weld yr amgueddfeydd yn y de ac rydyn ni yn edrych am ffyrdd ymarferol o ddatblygu llety fforddiadwy.

Image caption Fydd yna ragor o bobl o'r gogledd yn gallu mwynhau'r profiad o weld Eglwys Sant Teilo yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan yn y dyfodol?

"Er enghraifft, mae gwaith wedi dechrau i ail-ddatblygu safle'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan gan greu cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf fyddai'n galluogi pobl ifanc o bob cwr o Gymru i aros dros nos.

"Rhaid cofio hefyd bod yna rwydwaith o amgueddfeydd lleol a safleoedd treftadaeth gwych ar draws Cymru. Yn ddiweddar mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, wedi cyflwyno rhaglen addysgiadol arloesol sy'n galluogi ymwelwyr o'r ysgolion i fynd i'r afael ac ystod eang o bynciau tra'n ymweld â safleoedd treftadaeth."

Ymateb o Gaernarfon

Mae Hywel Roberts, sy'n gynghorydd tre yng Nghaernarfon a Llywydd Anrhydeddus y Gymdeithas Ddinesig wedi sgwennu at Cymru Fyw yn cefnogi dadl Gari Wyn.

Meddai Hywel:

"Pan ystyriwyd sefydlu Amgueddfa Forwrol i Gymru, cafodd Caernarfon ei ystyried ond Abertawe gafodd ei dewis ar gyfer y datblygiad pwysig yma. Adeg hynny addawyd y byddai "rywbeth yn digwydd yng Nghaernarfon" ond ni gadwodd gwleidyddion Caerdydd eu addewid ac nid oes dim wedi digwydd.

Image caption Mae 'na alw am Ganolfan Treftadaeth yng Nghaernarfon tu hwnt i furiau'r castell

"Mae'r Gymdeithas Ddinesig ac eraill wedi bod yn galw am Ganolfan Treftadaeth i Gaernarfon fyddai'n cynnwys Amgueddfa. Bydddai lle arbennig yn y rhan Amgueddfa i alluogi'r Amgueddfa Genedlaethol i arddangos eitemau o'r casgliadau genedlaethol yno fel maent yn gwneud yn Wrecsam.

"Mae nifer o leoliadau yn y dref a allai gael eu datblygu ac ar hyn o bryd mae'r Gymdeithas Dddinesig wedi anfon deiseb i'r Cynulliad ynglŷn â hyn sydd yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor perthnasol ar hyn o bryd ac mae Cyngor Tref Caernarfon yn cefnogi gant y cant. Mae pwyntiau Gari felly'n amserol iawn."

Ymateb o Ynys Môn

Mi sgwennodd Anwen Evans o Ynys Môn at Cymru Fyw i gefnogi dadl Gari Wyn:

"Mae trysorau o Lyn Cerrig Bach ym Môn, sydd gwta 2 filltir o'm cartref - yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Cenedlaethol Caerdydd, a phan ddaethpwyd â nhw yn ôl ar fenthyg i Oriel Môn yn Rhosmeirch am rai wythnosau, profodd yr arddangosfa yma yn hynod boblogaidd, sydd yn dangos diddordeb pan fod yr arddangosfa o fewn gafael.

"Mae gennym hanes cyfoethog yng Ngogledd Cymru, a diddordeb gwirioneddol gan blant ysgol am yr hanes yma, ond fel dywed Gari, heb gost ariannol uchel, nid oes modd inni gael mwynhau'r trysorau yma fel ag sydd yn digwydd yn y De.

Image caption Un o'r trysorau gafodd eu darganfod yn Llyn Cerrig Bach, Ynys Môn

"Mae cael 6 allan o 7 amgueddfa yn y De yn hollol afresymol, ac yn amddifadu pobl y Gogledd o fwynhau ein hanes. Dylai'r cydbwysedd fod yn llawer mwy teg.

"Mae sylwadau'r Cynulliad ynglŷn â chynnig llety rhatach yn methu'r pwynt yn gyfan gwbl. Mae angen cynnal a chadw diddordeb plant yn hanes ein gwlad, ac heb ymroddiad a phenderfyniad, un ai athrawon neu rieni, i ymweld â'r amgueddfeydd, yna mae'n anodd iawn cadw'r diddordeb yma.

"Gyda chwtogi yn nghyllid ysgolion, rwy'n siŵr na fydd tripiau o'r math yma yn cael blaenoriaeth.

"Gobeithio bydd Llywodraeth Cymru yn gweld ei ffordd yn glir i leoli unrhyw ddatblygiadau newydd yn y Gogledd. Da iawn Gari, am godi'r pwyntiau yma."

Cytuno neu anghytuno gyda pwyntiau Gari? Cysylltwch gyda ni ar e-bost cymrufyw@bbc.co.uk neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw

Cliciwch yma i wrando eto ar 'Gari Wyn' ar BBC Radio Cymru, Dydd Llun 2 Chwefror