Panel yn atal cyn brifathrawes rhag dysgu
- Cyhoeddwyd

Mae enw cyn brifathrawes o Gasnewydd wedi ei dynnu oddi ar y gofrestr dysgu wedi i banel benderfynu ei bod wedi gadael i'w staff newid canlyniadau profion cenedlaethol er mwyn sicrhau bod disgyblion yn cael graddau gwell.
Penderfynodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru fod Samantha Yeoman, cyn bennaeth Ysgol Gynradd y Tŷ-du, yn euog o gamweinyddu proffesiynol difrifol ar ôl caniatáu i'w staff weld papurau profi cyn eu rhoi i'r disgyblion yn 2013.
Clywodd y panel ei bod wedi gadael i athrawon fynd â disgyblion i ystafelloedd er mwyn newid atebion anghywir wedi i'r prawf gael ei gwblhau, a hefyd ganiatáu amser ychwanegol er mwyn i ddisgyblion gwblhau profion.
'Anonest'
Casglodd y gwrandawiad yng Nghaerdydd fod Mrs Yeoman wedi ymddwyn yn "anonest" a'i bod wedi creu awyrgylch bygythiol yn y gweithle.
Fe wnaeth hi ymddiswyddo fel prifathrawes y llynedd.
Bydd Mrs Yeoman yn cael ei hatal rhag dysgu am leiafswm o dair blynedd.
Cyflwynodd y Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru "orchymyn gwahardd" fydd yn dod i rym "o heddiw ymlaen".
Felly bydd rhaid i Mrs Yeoman ddisgwyl tair blynedd cyn ail-ymgeisio i fod yn athrawes.