Cwest A44: Marw o achos damwain

  • Cyhoeddwyd
Damwain
Disgrifiad o’r llun,
Y gwasanaethau brys wrth safle'r ddamwain y llynedd

Mae crwner mewn cwest i farwolaeth pedwar o bobl yn y canolbarth wedi dweud nad oedd na unrhyw dystiolaeth i ddangos pam fod car wedi gwyro i ganol ffordd, eiliadau cyn iddo fod mewn gwrthdrawiad â lori danwydd.

Bu farw Martin Pugh, ei nith Alison Hind, a rhieni partner Mr Pugh, John a Margaret Kehoe, ar ôl i'w car daro yn erbyn tancer danwydd ger Eisteddfa Gurig rhwng Llangurig a Phonterwyd ym mis Mehefin y llynedd.

Dywedodd gyrrwr y tancer wrth y cwest ei fod e wedi gweld y car Ford Focus, oedd yn cael ei yrru gan Mr Pugh, hanner ffordd ar draws y ffordd eiliadau'n unig cyn y ddamwain.

Achub merch

Fe ddisgrifiodd gyrrwr fan transit oedd tu ôl i'r car sut y gwnaeth ef a'i gyd-weithiwr nôl morthwyl er mwyn torri un o ffenestri'r car, ac achub merch ddeunaw mis oed Alison Hind, oedd yn ei chadair yn y cefn.

Cafodd y ferch fach o'r enw Holly ei hedfan i'r ysbyty wedi'r ddamwain, ond mae hi bellach yn holliach.

Dyfarnodd y crwner Andrew Barkley fod y pedwar wedi marw o ganlyniad i ddamwain.