Dathliadau Patagonia i 'ddechrau deialog' y Falkland
- Published
Mae llysgennad yr Ariannin wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai dathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu'r wladfa ym Mhatagonia fod yn fodd i "ddechrau deialog" dros ddyfodol Ynysoedd y Falkland.
Roedd Alicia Castro yn siarad ar ôl digwyddiad yng Nghaerdydd i lansio rhaglen o ddathliadau sy'n cael eu cynnal canrif a hanner ers i 160 o Gymry deithio i Batagonia yn 1865.
Dywedodd Ms Castro bod gan yr Ariannin gysylltiadau celfyddydol a hanesyddol "pwysig iawn" gyda Chymru, "ac rydyn ni'n gobeithio bod hyn yn esiampl, ac yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn dechrau deialog gyda llywodraeth fy ngwlad i dros y Falklands".
Mae'r Swyddfa Dramor wedi ymateb drwy ddweud bod y sylwadau yma yn llwyr anwybyddu dymuniadau pobl Ynysoedd y Falkland eu hunain.
Diffyg trafod yn 'drawiadol'
Y gred yw bod tua 50,000 o bobl Patagonia yn perthyn i'r Cymry cyntaf yna, ac mae llawer yn dal i siarad Cymraeg.
Ar ymweliad i Gymru yn 2014, dywedodd Ms Castro bod y modd mae'r gymuned Gymreig wedi ei derbyn yn yr Ariannin yn gwrthbrofi 'propaganda' ynglŷn ag unrhyw gasineb tuag at bobl o dras Brydeinig.
Ychwanegodd ar ymweliad arall bod cymuned Patagonia yn "esiampl berffaith o gydweithrediad ac integreiddio".
Dywedodd Ms Castro ei fod yn "drawiadol" bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod dechrau trafodaethau dros ddyfodol Ynysoedd y Falkland.
"Roedden ni mewn rhyfel oherwydd y glymblaid filitaraidd oedd yn rheoli ein gwlad," meddai.
"Rydyn ni'n difaru bod y rhyfel wedi digwydd, ni fyddai erioed wedi digwydd rhwng dwy wlad gyda chysylltiadau celfyddydol a hanesyddol pwysig iawn.
"Felly wrth gwrs dwi'n meddwl ei fod yn gamgymeriad.
"Nawr mae gyda ni lywodraeth ddemocrataidd, llywodraeth boblogaidd, ac mae'n drawiadol nad yw Llywodraeth y DU oedd yn trafod gyda'r hen glymblaid filitariadd am ddechrau deialog gyda llywodraeth boblogaidd a democrataidd."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Nid yw hwn yn fater yn unig i gael ei drafod gan Lywodraethau'r DU a' Ariannin - mae dymuniadau'r Ynyswyr yn flaenoriaeth."
"Rydym am gael perthynas llawn a chyfeillgar gyda'r Ariannin, fel cymdogion yn Ne'r Iwerydd ac fel cyd-aelodau cyfrifol o grŵp gwledydd y G20.
"Ond ni fyddwn yn amddifadu hawliau pobl Ynysoedd y Falkland yn erbyn eu hewyllys neu'r tu ôl i'w cefnau."
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Awst 2014