Carchar Wrecsam: 'Hwb o £23m i'r economi leol'

  • Cyhoeddwyd
Carchar Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y safle yn yr haf

Bydd carchar newydd yn y gogledd yn creu 1,000 o swyddi ac yn denu £23m i'r ardal, yn ôl Llywodraeth Prydain.

Ddydd Gwener fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn a Swyddfa Cymru wahodd newyddiadurwyr i gael golwg ar y safle ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam.

Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau ers yr haf ar 25 hectar o hen safle Firestone.

Mae disgwyl i rai o'r prif adeiladau gael eu codi yr haf nesaf a bydd y safle'n dechrau derbyn carcharorion yn 2017.

Creu swyddi

Bydd y carchar yn cynnwys tri bloc preswyl yn dal tua 700 o garcharorion yr un.

Yng nghanol y safle fe fydd yna ddau ganolfan addysg a hyfforddiant.

Bydd canolfan iechyd, canolfan chwaraeon, canolfan aml-ffydd a ffreutur hefyd yn rhan o'r datblygiad.

Dywedodd Alun Cairns, Is ysgrifennydd Cymru: "Mae 'r carchar yn cynnig cyfle gwych i greu swyddi a thwf economaidd yng ngogledd Cymru.

Disgrifiad o’r llun,
Bydd y carchar yn gartref i dros 2,000 o garcharorion
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r gwaith o godi'r ffens berimedr wedi dechrau ar y safle

"Fe wnaeth 280 o fusnesau yn y maes adeiladu fynychu gweithdy tendro y llynedd ac mae £1.1 miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer busnesau lleol - mae hynny'n llawer uwch na'r targed mor gynnar yn y broses. "

Dalgylch

Ychwanegodd: "Gyda dros 75% sy'n cael eu cyflogi ar y safle o'r ardal leol, mae economi gogledd Cymru eisoes wedi cael budd."

Er gwaetha'r buddsoddiad posib, mae nifer yn lleol yn dal i wrthwynebu maint y datblygiad

Yn ôl gwaith ymchwil diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r diffiniad o 'ardal leol' sydd yn cael ei ddefnyddio wrth ddisgrifio cyfleoedd swyddi y carchar newydd yn cynnwys dalgylch o 50 milltir o ganol Wrecsam.

Mae'r dalgylch yma'n cynnwys dinasoedd Lerpwl, Manceinion, Wolverhampton a Stoke-on-Trent, yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Disgrifiad o’r llun,
Darlun posib o sut all y carchar newydd edrych