200 yn llai yn gweithio yn Ford
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni cynhyrchu ceir Ford wedi cadarnhau y bydd 200 o weithwyr sydd ar gytundebau penodol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn colli eu gwaith.
Dywedodd llefarydd fod y gweithwyr yn gweithio ar gynhyrchu injan chwe silindr, a bod y cytundebau yn dod i ben "yn ôl y disgwyl yn 2015."
Yn ôl Roger Maddision o Undeb UNITE doedd newyddion dydd Gwener ddim yn annisgwyl.
Ond roedd yn obeithiol y byddai'r ffatri yn sicrhau cytundeb i gynhyrchu injan arall.
Yn ôl Mr Maddison mae Ford yn dal i ystyried pa safle fydd yn cynhyrchu'r injan newydd.
"Mae'r broses o geisio sicrhau'r tender ar gyfer yr injan dragon yn dal i fynd rhagddo," meddai.
"Mae'r arwyddion yn awgrymu mai Pen-y-bont yw'r ffefrynnau. Byddai hynny yn sicrhau dyfodol y safle yn yr hirdymor. Does dim disgwyl y penderfyniad am rai misoedd."