£5.4m o arian elusen i fyrddau iechyd

  • Cyhoeddwyd
IechydFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ystadegau sydd wedi dod law BBC Cymru wedi dangos fod elusennau yng Nghymru wedi cyfrannu dros £5.4m y llynedd i gynorthwyo gwaith y Byrddau Iechyd.

Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i brynu cyfarpar na fyddai'n cael ei ariannu gan y Gwasanaeth Iechyd, ac er mwyn gwella ansawdd bywyd i gleifion.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd sydd wedi derbyn y swm mwyaf o arian, sef £2.1m. Mae yna 300 o gronfeydd elusennol yn codi arian at amrywiaeth o wasanaethau sy'n cael eu darparu gan y Bwrdd, ac mae'r swm unigol mwyaf, sef £900,000 yn cael ei roi at wasanaethau canser.

Derbyniodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro £441,000, ac fe gafodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg £1.5m.

Yn ogystal ag arian gan elusennau, mae'r Byrddau Iechyd hefyd yn derbyn rhoddion gan unigolion ac mewn ewyllysiau.