Athro cynradd yn ddieuog o gyhuddiadau rhyw
- Cyhoeddwyd

Mae athro ysgol gynradd wedi ei gael yn ddieuog o 14 o gyhuddiadau yn ymwneud a chael perthynas rywiol gyda dwy ferch 15 oed.
Roedd Jonathan Mark Norbury, 33, mewn dagrau wrth i'r rheithgor gyhoeddi eu dyfarniad yn Llys y Goron Abertawe.
Roedd yr athro yn wynebu naw cyhuddiad o ymgymryd â gweithgareddau rhywiol gyda phlentyn a phum cyhuddiad o annog rhywun dan 16 oed i berfformio gweithredoedd rhywiol.
Roedd Mr Norbury wedi gwadu'r cyhuddiadau, ond wedi cyfaddef iddo gael perthynas gyda'r ddwy ferch pan roedden nhw'n hŷn na'r oed cydsynio.
Nid oedd Mr Norbury yn dysgu'r un o'r ddwy ferch.
Roedd yr erlyniad wedi honni bod Mr Norbury yn mynd â'r merched i leoliadau tawel yn ei gar i gael rhyw gyda nhw.
Clywodd y llys hefyd ei fod wedi ceisio cuddio'r ffaith ei fod mewn perthynas gyda'r ddwy ferch.
Honnodd Mr Norbury ei fod yn poeni y byddai'n cael ei ddisgyblu oherwydd rheolau "llym" yr eglwys y mae'n aelod ohoni.
Yn siarad ar ôl yr achos, dywedodd Mr Norbury ei fod yn falch bod yr achos ar ben.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr ysgol lle roedd Mr Norbury yn gweithio cyn iddo gael ei wahardd rhag dysgu:
''Doedd yr un o'r honiadau yn ymwneud â'n hysgol ni. Rydym yn trin honiadau o'r math yma yn ddifrifol iawn ac fe gafodd Mr Norbury ei wahardd cyn gynted ag yr oeddem yn ymwybodol o'r honiadau.
''Yn dilyn y dyfarniad, bydd Mr Norbury yn parhau wedi ei wahardd tra bod camau mewnol ychwanegol yn cael eu cymryd. Fe fyddai'n amhriodol i wneud sylw pellach ar yr adeg yma.''