Babi cyntaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- Cyhoeddwyd

I lawer o bobl mae 'na gyswllt amlwg rhwng Cymru a'r gwasanaeth iechyd.
Cymro, Aneurin Bevan o Dredegar yng nghymoedd glo'r de, wnaeth sefydlu'r gwasanaeth.
Ond mae 'na gyswllt arall yn ymwneud â babi. Iawn, 'falle dyw hi ddim yn fabi nawr, ond roedd hi'n fabi go arbennig ychydig dros chwedeg mlynedd yn ôl.
Aneira Thomas oedd babi cynta'r gwasanaeth iechyd. Toc wedi canol nos ar 5 Gorffennaf 1948 yn Ysbyty Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin, daeth Aneira i'r byd.
"'Odd mam yn gweud y stori wrthai, pan o'n i'n fach. Odd hi 'di cael chwech o blant, a odd hi'n cal fi just rownd deuddeg ar y noson hon. Odd y doctors a'r nyrsys yn gweud wrtho hi "hold on Edna, hold on", achos odd e'n bwysig o'n nhw mo'yn fi cael y ngeni ar ôl deuddeg. A ges i fy ngeni un munud wedi deuddeg."
Fe gafodd Aneira ei henwi ar ôl y dyn a sefydlodd y gwasanaeth iechyd, rhywbeth mae hi'n ystyried i fod yn anrhydedd.
'Mwynhau pob munud'
Fe ddilynodd Aneira lawer o'i theulu drwy weithio yn y gwasanaeth iechyd.
"Bues i'n gweithio'n Nhreforys, Port Talbot ac Ysbyty Gorseinon, ac yn gweithio'n bennaf gyda gofal henoed.
"O'n i'n mwynhau pob munud ohonno fe. Roedd nyrsio bryd hynny'n anodd.
"Roedd matron ar y ward yn gwneud yn siwr bod pawb yn bihafio, ac ar y pryd, fel rhan o'r hyfforddiant roedd rhaid hala amser gyda chleifion pan oedd 'da ni amser - eistedd lawr a siarad - 'tender loving care'.
Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn derbyn llawer o sylw ar hyn o bryd, yn enwedig wrth i'r etholiad cyffredinol agosau, a dyw Aneira ddim yn hoff o'r ffaith bod gwleidyddion yn ymosod ar y gwasanaeth.
"Fi'n teimlo'n grac iawn. Sai'n lico hwnna achos ma fe 'na i bob un. Ma' bob person ym Mhrydain yn defnyddio'r Gwasanaeth Iechyd.
"Ma 'na broblemau, ambell waith ma rhaid i nhw sefyll yn hirach chi'n gwbod. Ond yn y byd i gyd ni odd y cynta i ddod mewn a'r gwasanaeth iechyd."
Ond yn ôl Aneira byddai'r dyn cafodd ei henwi ar ei ôl yn hapus gyda'r sut mae'r gwasanaeth wedi datblygu.
"Fi'n credu byddai fe [Aneurin Bevan] yn falch iawn i weld be sy'n digwydd nawr, a fi'n credu gele fe sioc. Chi'n gwbod, fel bod operations wedi mynd ymlaen, bod nhw'n gallu defnyddio robots i neud operations, transplants. Fi'n credu bydde fe mor falch bod hyn wedi digwydd."