Ceffylau coll: Hanner cynghorau heb ddefnyddio pwerau
- Cyhoeddwyd

Deuddeg mis wedi i ddeddfwriaeth gael ei gyflwyno i helpu cynghorau Cymru i fynd i'r afael â cheffylau coll neu wedi eu gadael, mae hanner cynghorau Cymru heb ddefnyddio'r pwerau hynny.
Daeth y Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) i rym ym mis Ionawr y llynedd.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gweithredu oherwydd problemau gyda nifer fawr o anifeiliaid yn cael eu gadael ar hyd yr M4.
Roedd y llywodraeth yn gobeithio y byddai'r ddeddf yn symleiddio ac egluro pwerau cynghorau, gan sicrhau bod y pwerau'n gyson ar draws y wlad.
Ers hynny, mae 11 o 22 o gynghorau Cymru wedi defnyddio'r pwerau i symud 460 o geffylau a merlod oedd yn pori ar dir ble nad oedden nhw fod yn pori.
Mae'r mwyafrif o'r ceffylau wedi cael eu symud gan chwe chyngor - gydag Abertawe yn arwain y ffordd drwy symud 233 o anifeiliaid.
'Dyletswydd gyfreithiol'
Mae Tir Comin Gelligaer wedi wynebu problemau gyda cheffylau a merlod sy'n cael eu gadael, gyda mwy na 200 o anifeiliaid yn pori ar y tir rhwng yr afon Taf a Chwm Rhymni.
Roedd y gymdeithas tir comin lleol wedi gobeithio y byddai'r ddeddf newydd yn eu helpu i fynd i'r afael â'r broblem - yn enwedig wedi iddi gael ei defnyddio i symud anifeiliaid oddi ar Dir Comin Manmoel yn haf y llynedd.
Roedd cadeirydd y gymdeithas, Ron Jones, wedi cynnal trafodaethau gyda chynghorau lleol ynglŷn â defnyddio'r ddeddf, ond wedi gadael y cyfarfodydd yn siomedig.
"I fod yn deg, roedd y ddau gyngor wedi cynnig cyd-weithredu ym mhob ffordd posib. Ond nid oedden nhw'n gallu cynnig unrhyw arian. Felly nid oes llawer y gallwn ni wneud", meddai.
Angela Burns AC yw cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar geffylau, ac mae hi'n credu y dylai bod dyletswydd gyfreithiol ar gynghorau i ddefnyddio'r ddeddf - ac adnoddau i wneud hynny.
"Oni bai bod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol, ni fydd pob cyngor yn cyd-fynd â'r ddeddf. Dylai bod arian yn cael ei roi i gefnogi hyn, dylai bod rheolaeth ganolog dros yr holl fater", meddai.
'Partneriaeth'
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai rhoi dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau yn golygu bod y ddeddfwriaeth yn fwy beichus, gan olygu bod awdurdodau yn llai tebygol o'i defnyddio.
Dywed y llywodraeth eu bod nhw hefyd wedi darparu arian cyfatebol er mwyn galluogi i gynghorau symud anifeiliaid sydd wedi cael eu gadael, a hynny ar sail pob achos yn unigol.
Bydd mwy i'w glywed ar raglen Eye On Wales ar BBC Radio Wales, dydd Sul, 1 Chwefror, 12:30.
Straeon perthnasol
- 1 Mehefin 2014
- 10 Rhagfyr 2013