Rhybudd melyn am eira a rhew ar gyfer y penwythnos
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew ar hyd rhan helaeth o Gymru ar gyfer y penwythnos.
Mae rhybudd bod amodau gyrru yn anodd bore Sadwrn oherwydd rhew.
Bu'n bwrw eira mewn rhai mannau yn y gogledd a de ddwyrain dros nos.
Mae yna hyd at ddwy fodfedd o eira ar Fwlch yr Oernant ger Llangollen.
Ac mae eira hefyd wedi achosi problemau i deithwyr ar yr A4059 ym Mhenderyn, Mynydd Rhigos hyd at y gylchfan ar yr A4061, ac ar yr A470 dros Fannau Brycheiniog yn Storey Arms.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod angen gofal ar yr A487 ger Synod Inn yng Ngheredigion.
Bydd cawodydd eira yn croesi Cymru o'r dwyrain ddydd Sadwrn.
Ddydd Sul fe fydd eira yn lledu o'r gorllewin, ac fe allai hyn effeithio ar ardaloedd yn cynnwys tiroedd isel.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng hanner nos ar nos Wener hyd at nos Lun.
Daw'r rhybudd diweddaraf yn dilyn amgylchiadau anodd ar rai o'r ffyrdd ar fynyddoedd Cymru yn ystod y dyddiau diwethaf.
Aeth nifer o geir i drafferthion mewn eira ar yr A470 ddydd Iau ar Fwlch y Crimea ger Blaenau Ffestiniog, ac roedd yr A542 ger Bwlch yr Oernant ar gau am gyfnod.
Bu'n rhaid cludo dyn 50 i'r ysbyty wedi iddo gael damwain car yn yr eira yn Rhydymain yng Ngwynedd.
Roedd chwe ysgol ar gau yn Ynys Môn a Gwynedd ddydd Iau o achos y tywydd.