Ailagor dwy lôn o'r M4
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Traffic Wales
Mae dwy lôn o'r M4 wedi ailagor wedi i draffig fod yn ciwio am 13 milltir ar ôl i olew hydrolig gael ei ollwng ar y ffordd.
Ar un adeg nos Wener roedd traffig yn ciwio rhwng Cyffordd 23A, gwasanaethau Magwyr, hyd at Gyffordd 28 ym Mharc Tredegar ar y lôn orllewinol.
Roedd y lonydd ar gau am dair awr cyn ailagor am 19:10 ac ar un adeg roedd oedi o hyd at awr.