Ffrae yswiriant ynglŷn â sticeri crefyddol ar gar
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni yswiriant wedi bygwth dod a pholisi car gweinidog i ben oherwydd ei bod yn rhoi sticeri crefyddol ar ei char.
Mae'r parchedig Wena Parry, 75, wedi cael gwybod y gallai'r sticeri, sy'n dweud "Christ Must Be Saviour" a "Christ For Me", gael eu hystyried fel addasiadau i'w char, ac felly yn golygu nad yw ei pholisi yn ddilys.
Dywedodd y parch Parry, o Gymer, Castell Nedd Port Talbot, wrth raglen X-Ray BBC Cymru ei bod yn credu iddi gael ei thrin yn annheg gan gwmni yswiriant Age UK a hynny oherwydd ei daliadau crefyddol.
"Mae'n bosib bod rhywun oddi mewn i'r cwmni yn casáu Cristnogaeth." meddai.
Mae Age UK wedi gwadu fod yna unrhyw gymhelliad crefyddol i'w hystyriaethau.
Yn ôl y parchedig Parry mae'r arwyddion ar ochr ac ar fonet ei char yn helpu lledaenu'r Gair.
Rhybudd
"Pob cyfle dwi'n cael dwi eisiau son am Iesu. Dwi'n credu bod o leiaf miliwn o bobl wedi darllen yr arwyddion ar y car," meddai.
Fe wnaeth y cwmni ddatgan gwrthwynebiad i'r sticeri ar ôl iddi geisio hawlio ar ei pholisi ar ôl i ddarn o'r car gael ei ddwyn. Fe wnaeth hi anfon lluniau o'r car fel rhan o'i chais.
Cafodd hi 10 diwrnod i egluro pam nad oedd hi wedi rhoi gwybod iddynt am y sticeri, a hefyd am daniwr sigarennau ychwanegol yng nghist y car.
Cafodd rybudd: "Mae'n bosib y byddwn yn penderfynu nad yw'r polisi yn ddilys."
Mae llythyr Age UK yn dweud: "Dyw'r addasiadau yma ddim yn cyd-fynd a'n criteria ar gyfer yswiriant car, a byddai'r cais am bolisi wedi cael ei wrthod pe bai ni'n ymwybodol o'r addasiadau. "
Ond maen nhw'n dweud nad yw crefydd ag unrhyw beth i wneud gyda'r bygythiad i dynnu'r polisi yn ôl.
Arolygu
Dywed y cwmni fod eu hyswirwyr nhw, Ageas Insurance Limited, wedi ymchwilio i'r modd gafodd ei pholisi ei werthu.
"Maen nhw wedi penderfynu nad oedd ein cais i ofyn ynglŷn ag addasiadau wedi ei wneud yn ddigon clir i'r parchedig Parry, ac felly doedd hi ddim yn gwybod pa addasiadau oedd angen iddi ddatgelu."
"Maen nhw'n dweud y byddant yn arolygu geiriad y ffurflenni cais ar gyfer polisïau."
Bydd rhaglen X-Ray, yn cael ei darlledu ar ddydd LLun 2 Chwfror , BBC One Wales am 19:30