Lleidr yn dwyn 200 metr o gebl ffôn yn ardal Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad gyda'r dyn yma
Mae rhai cartrefi a busnesau yng Nghaerdydd heb gysylltiad ffôn a band eang ar ôl i leidr ddwyn 200 metr o gebl.
Fe gafodd y cebl ei ddwyn tua 08:00 ddydd Sadwrn ger ffordd San Ffagan, San Ffagan.
Mae Heddlu'r De wedi rhyddhau llun o ddyn maen nhw'n awyddus i holi ynglŷn â'r lladrad.
Mae peirianwyr wedi bod wrth yn ceisio adfer y gwasanaeth ffôn i gwsmeriaid.