Caerdydd 0-2 Derby

  • Cyhoeddwyd
Cardiff goalkeeper Simon Moore saves Derby striker Chris Martin's penaltyFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Simon Moore yn achub cic o'r smotyn

Mae problemau Russell Slade, rheolwr Caerdydd, yn dwysau gyda thîm y brifddinas yn colli 2-0 gartref i Derby.

Hon oedd y drydedd gêm yn olynol i Gaerdydd golli yn y Bencampwriaeth.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Derby ar yr un nifer o bwyntiau a Bournemouth ar frig y Bencampwriaeth.

Yn gynnar yn y gêm fe wnaeth Simon Moore arbed cig o'r smotyn gan Chris Martin.

Ond aeth Derby ar y blaen ar ôl i Scott Malone roi'r bêl yn rhwyd ei hun o groesiad isel Jamie Ward.

Fe wnaeth Derby ymhelach ar y blaen diolch i beniad Martin ychydig cyn yr egwyl.