Casnewydd 0-1 Amwythig
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth yr eilydd Jean-Louis Akpa Akpro sgorio gôl hwyr i'r ymwelwyr sy'n sicrhau eu bod yn codi i frig yr Ail Adran.
Fe ddaeth y gŵr o Draeth Ifori i'r cae yn lle Mikael Mandron, ac o fewn dau funud roedd wedi rhwydo unig gol y gêm.
Cafodd Keith Southern ei anfon o'r cae yn hwyr yn y gêm.
Mae Casnewydd yn parhau yn y chweched safle, ond hwn oedd y drydedd gêm yn olynol iddynt golli.