Wrecsam 0-0 Torquay
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Wrecsam sicrhau eu pwynt cyntaf yn 2015 mewn gem gyfartal gyda Torquay ar y Caeras.
Roedd cyflwr y cae yn dilyn glaw trwm anodd i'r ddau dîm.
Torquay oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf gyda Andy Coughlin yn arbed yn dda o gynigion Ashley Yeoman a James McQuilkin.
O ran y tîm cartref, fe wnaeth Kyle Storer daro'r bel i ochr y rhwyd, ac fe wnaeth Martin Rice arbed ymdrech Keiron Morris.