Canlyniadau cwpan LV
- Cyhoeddwyd

Rhediad Tevita Cavubati yn cael ei atal
Mae'r Gweilch allan o gwpan LV ar ôl colli 32-25 yng Nghaerloyw.
Croesodd Ben John, Richard Fussell a Tom Grabham i'r ymwelwyr.
Ond roedd yna bedwar cais i'r tîm cartref.
Golygai'r canlyniad fod y Gweilch wedi colli pob un o'u tair gem yn y gystadleuaeth.
Roedd yna fuddugoliaeth i'r tîm cartref ar Barc y Scarlets.
Y Gwyddelod yn Llundain oedd ar y blaen am gyfnod o'r gêm ond fe groesodd Harry Robinson, Adam Warren Kyle Evans i sicrhau buddugoliaeth o 27-18 i'r Scarlets.