Richey Edwards: Dioddefaint teulu
- Cyhoeddwyd

Mae'n union ugain mlynedd ers i gitarydd y Manic Street Preachers, Richey Edwards ddiflannu.
Wrth nodi'r dyddiad mae ei chwaer Rachel Elias wedi disgrifio galar y teulu.
Fe gafodd ei weld ddiwethaf am 07:00 am ar 1 Chwefror 1995 yng ngwesty'r Embassy yn Llundain.
Cafwyd hyd i'w gar ger yr hen Bont Hafren, ond doedd dim son am Mr Edwards.
Dywed Rachel Elias fod y teulu yn parhau i'w chael yn anodd i ddygymod a'r sefyllfa.
Ychwanegodd bod eu tad Graham, oedd yn marw o ganser yn 2013, wedi gorfod wynebu'r realiti na fyddai'n gwybod beth yn union oedd y gwirionedd.
"Roedd o'n anodd iddo (Graham) oherwydd y bod yn rhai iddo wynebu realiti - ac maen bosib y bydd rhaid i weddill y teulu orfod hefyd - na fyddwn byth yn gwybod beth ddigwyddodd i Richard."